
Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi cyhoeddi ei Gabinet newydd o fewn oriau iddo dynnu ei lw yn ei rôl newydd. Leighton Andrews yw’r Gweinidog newydd dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes. Mae Jane Hutt yn symud at bortffolio newydd fel Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb. Penodwyd dau Ddirprwy Weinidog newydd yn dilyn newidiadau portffolio, gan greu dau bortffolio newydd. Bydd Lesley Griffiths yn Ddirprwy Weinidog dros Sgiliau, Arloesi a Gwyddoniaeth tra bydd Huw Lewis yn arwain portffolio newydd fel Dirprwy Weinidog dros Blant. Yn y rôl hon bydd Mr Lewis yn gyfrifol yn benodol am gydgysylltu materion y Llywodraeth mewn perthynas â thlodi plant.
Mae Estyn yn falch o ddatgan ei bod wedi cyhoeddi ei newyddlen 2010 gyntaf oll ar gyfer pob darparwr addysg a hyfforddiant ledled Cymru. Mae’r newyddlen yn darparu gwybodaeth a diweddariadau am y fframwaith arolygu newydd a fydd yn cael ei gyflwyno ar draws y rhan fwyaf o sectorau o fis Medi 2010 ymlaen. Os oes gennych unrhyw adborth neu sylwadau, anfonwch neges e-bost at cyfathrebu@estyn.gov.uk.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â Chanllawiau Statudol ar Wasanaethau Cymorth Ieuenctid i bobl ifanc 11-25 oed a Gwasanaethau Cymorth i Ddysgwyr i bobl ifanc 14-19 oed. Mae'n nodi'r cyfarwyddyd cyfreithiol a'r cyfrifoldebau o ran gwasanaethau cymorth ieuenctid ac yn egluro'r math o gymorth a chyfleoedd y dylai pobl ifanc eu disgwyl.
Yn y flwyddyn newydd, bydd Dr Bill Maxwell, Prif Arolygydd ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn) yn gadael Cymru yn y Flwyddyn Newydd er mwyn dechrau swydd fel Prif Arolygydd ei Mawrhydi dros Addysg yn yr Alban. Bydd ei swydd yn dechrau ym mis Chwefror 2010.
Datganiad gan Dr Bill Maxwell:
“Er fy mod i’n teimlo’n gyffrous iawn ynglŷn ag ymgymryd â her swydd y prif arolygydd yn fy ngwlad frodorol, Yr Alban, bydd yn ddrwg iawn gen i adael Cymru. Rydw i wedi mwynhau fy nghyfnod yn gweithio yng Nghymru’n fawr yn ystod yr hyn sydd, yn amlwg, yn gyfnod o gyfle a chynnydd ar gyfer addysg Gymraeg yn gyffredinol ac i Estyn yn benodol. Yn ystod fy nwy flynedd yn y swydd, rwyf wedi gwerthfawrogi’n fawr y gefnogaeth a gefais gan staff Estyn a’i Fwrdd, gan Weinidogion a swyddogion allweddol yn LlCC, a chan ein hystod eang o randdeiliaid, wrth fynd ymlaen â’r agenda uchelgeisiol yr ydym ni wedi’i sefydlu ar gyfer gwella’r ffordd y mae arolygu yn hyrwyddo gwelliant yn y system addysg. Rwy’n hyderus fod Estyn yn awr mewn sefyllfa dda i wireddu potensial y datblygiadau hyn yn llawn, ac edrychaf ymlaen at gynnal cysylltiadau rhwng arolygiaethau Cymru a’r Alban, a fydd yr un mor fanteisiol i’r naill a’r llall, gan wneud y mwyaf o’r cysylltiad Celtaidd hynafol!”
Mae'r erthygl hon yn rhoi crynodeb o'r ystadegau sydd ar gael ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru.
Mae Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau wedi comisiynu UVAC i gynnal astudiaeth ledled y DU o’r dysgwyr galwedigaethol a chymhwysol sy’n mynd ymlaen i raglenni addysg a dysgu lefel uwch yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn rhan o’r astudiaeth hon, mae UVAC yn cynnal digwyddiad ymgynghori a rhwydweithio yn Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd ddydd Mawrth 19 Ionawr 2010. Ni chodir tâl am ddod i’r digwyddiad.
Nod y canllawiau hyn yw helpu ysgolion i sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cyfle i ddatblygu a chymhwyso ei sgiliau TGCh a bod y sgiliau hynny'n cael eu cydnabod gan gymhwyster allanol addas yn ystod Cyfnod Allweddol 4.
Mae'r Gweinidog Addysg, Jane Hutt, wedi croesawu ymgyrch bwysig i hyrwyddo'r ffaith bod myfyrwyr yn gallu gwneud cais am gyllid myfyrwyr ar yr un pryd â'u cais am le mewn prifysgol (7 Rhagfyr). Yn y gorffennol, nid oedd modd i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf wneud cais am eu pecyn ariannol tan fis Ebrill, ar ôl iddynt wneud eu cais trwy UCAS am le i astudio.
Mae'r cylchlythyr yma'n amlinellu canfyddiadau’r Adroddiad Ymchwil ar Fyfyrwyr yn tynnu yn ôl o Addysg Uwch. Nod cyffredinol yr astudiaeth hon oedd cynnal adolygiad systematig o lenyddiaeth a fyddai'n llywio a gosod sylfaen i ymchwil empeiraidd ddilynol ymysg Sefydliadau Addysg Uwch Cymru (SAU). Amcan allweddol oedd adnabod meysydd lle nad oedd llawer yn wybyddus, a lle byddai ymchwiliad yn ychwanegu at wybodaeth a dealltwriaeth ac yn llywio polisi.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn ddwyieithog)
In The Children's Plan the DCSF gave a commitment to commission an independent review of the impact of the commercial world on children's wellbeing. That assessment, conducted by Professor David Buckingham and a panel of experts, is now complete and this report presents their findings.
Ofsted surveyed a small sample of 26 schools to evaluate their capacity to respond effectively to changes in policy in terms of making provision for gifted and talented pupils, and to identify good and less effective practice.
The Talisman is a printed newspaper specifically for adult training and Further Education providers. This is an annual Report special issue covering Ofsted's inspection finding's from 2008/09 across the learning and skills sector, including case studies.
Four further Sector Skills Councils (SSCs) have been relicensed, Business, Innovation and Skills Secretary Lord Mandelson announced, on behalf of the UK Government and the Devolved Administrations. Creative & Cultural Skills (covering the creative and cultural industries), Proskills (covering the process and manufacturing sector) and Skillsmart Retail (covering the retail sector) and Lantra (covering the environmental and land-based sector) have been successful in their application for a further trademark licence to operate as SSCs and have gone through a comprehensive assessment process led by the UK Commission for Employment and Skills.