
Mae Jane Hutt, y Gweinidog dros Addysg wedi cyhoeddi enwau’r 99 o ysgolion a fydd yn cynnal y cynllun peilot Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion yng Nghymru o fis Medi. plant a phobl ifanc yn ganolog i’r polisi addysg a’r broses o’i weithredu yng Nghymru. Mwy
Ar 15 Ionawr 2008, fe lansiodd John Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, y ddogfen ymgynghori ar Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2008. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion i’r ymgynghoriad oedd 29 Ebrill 2008. Mae modd ichi ddarllen crynodeb o’r ddogfen ymgynghori a’r ymatebion iddi yma. Mwy
Nod yr adroddiad ymchwil oedd ystyried canfyddiadau pobl ifanc, rhieni a Chynrychiolwyr Rhwydwaith o ran polisi Llwybrau Dysgu (rhan o Gynllun Gweithredu 14-19 2006-2010) Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n anelu at drawsnewid y cyfleoedd addysg a hyfforddiant sydd ar gael i bobl ifanc 14-19 oed). Mwy
Comisiynwyd y cyngor gan Is-adran Dysgu Gydol Oes a Darparwyr APADGOS er mwyn monitro cynnydd Gyrfa Cymru wrth gynorthwyo datblygiad Llwybrau Dysgu 14-19. Mae’n rhan o gyfres o adroddiadau Estyn a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mwy
Ym mis Ebrill 2006, comisiynwyd CRG Research Ltd i gyflawni gwerthusiad o'r Gronfa Buddsoddi ar y Cyd (CIF).Mae CIF wedi galluogi datblygu partneriaethau darparwyr. Lle roedd partneriaethau'n bodoli eisoes maent wedi cael eu cryfhau - mae rhwystrau traddodiadol i gydweithio megis diffyg ffydd yn cael eu goresgyn yn raddol ac mae partneriaid yn dechrau addasu i gryfderau ei gilydd. Mwy
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan Estyn, mae arolygwyr wedi canfod bod ysgolion sy’n gweithredu prosiectau Rhagori yn adrodd am welliannau. Menter gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yw Rhagori (Codi Cyrhaeddiad a Safonau Unigol mewn Addysg) sydd â’r nod o wella lefelau cyflawniad ymhlith y rheiny sydd dan anfantais economaidd a chymdeithasol. Datganiad i’r wasg. Adroddiad
Adolygiad o lenyddiaeth a thrafodaethau wedyn gyda 25 o ddarparwyr/ymarferwyr sgiliau sylfaenol ac arolwg o 200 o ddysgwyr ledled Cymru. Yr amcanion oedd casglu gwybodaeth am safbwyntiau darparwyr ac ymarferwyr ynghylch yr heriau wrth geisio gwella capasiti sgiliau sylfaenol yng Nghymru a’r goblygiadau allweddol o ran polisi ac arferion yng Nghymru, ynghyd â nodi a thrafod unrhyw argymhellion. Mwy
Mewn adroddiad a ryddhawyd heddiw o’r enw ‘Cyfuno’r ffiniau mewn dysgu oedolion yn y gymuned’, canfu Estyn fod darparwyr addysg oedolion yn cyflwyno addysg o ansawdd da yn gyson, ond nad ydynt yn gweithio gyda’i gilydd digon i greu rhaglen ar y cyd sydd wedi’i theilwra’n benodol i fynd i’r afael ag anghenion y gymuned. Datganiad i’r wasg Adroddiad
Roedd 144,140(r) o fyfyrwyr wedi'u cofrestru gyda Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru, 4.6 y cant yn uwch nag yn 2005/06. Roedd 46 y cant yn fyfyrwyr rhan-amser. Roedd 119,055 o fyfyrwyr a oedd yn hanu o Gymru wedi'u cofrestru gyda Sefydliadau Addysg Uwch yn y DU, 3.7 y cant yn uwch nag yn 2005/06. Roedd 51 y cant yn fyfyrwyr rhan-amser. Mwy
Ydych chi’n mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd eleni? Ydych chi’n gweithio fel athro, darlithydd, neu ddarparwr hyfforddiant yng Nghymru? Ydych chi eisiau clywed mwy am y cyfle i wella eich sgiliau iaith-Gymraeg? Os felly, dewch i Babell Prifysgol Caerdydd ddydd Sadwrn 2 Awst am 11am pan fydd John Griffiths, Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, yn siarad gyda thiwtoriaid y cwrs a chyn-gyfranogwyr am yr hyfforddiant unigryw hwn. Cysylltwch â cynllunsabothol@cymru.gsi.gov.uk am ragor o wybodaeth. Mwy
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn ddwyieithog)
Hundreds of the UK's most influential business people, ministers and policy makers will be gathering in London today (14 July) as plans are unveiled for the development of the UK's employment and skills systems. The event - hosted by the UK Commission for Employment and Skills - marks the beginning of the Commission's first year of work. More
The Learning and Skills Council (LSC) has announced the winners of the national Apprenticeship Awards 2008. Now in their fifth year, the Awards are designed to recognise the hard work and commitment of people who are currently undertaking, or who have recently completed, an Apprenticeship, as well as the employers who are successfully using Apprenticeships to improve business performance. More
A website for teachers, parents, young people and others with an interest in dyslexia is being launched today by Sir Jim Rose as part of his review into how children with dyslexia learn best. Sir Jim is asking for personal accounts and experiences as well as details of published research. More
The details of a multi-million pound investment programme to develop large-scale research facilities throughout the UK were announced today by the Department for Innovation Universities and Skills (DIUS). More
Higher education's contribution to the economy continued to grow in 2006-07 reaching record levels. The Higher Education - Business and Community Interaction (HE-BCI) survey, published today, reveals that UK higher education institutions (HEIs) received £2.64 billion from business and community interaction in 2006-07. This is a 17 per cent rise from the last survey (for 2005-06). More