
Yng Nghaerdydd heddiw, mewn cynhadledd o bwys ar addysg, mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, wedi agor trafodaeth ar ddyfodol pynciau Safon Uwch a galwedigaethol yng Nghymru.
Cyflwynodd y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes araith ar 2 Chwefror 2011. Canolbwyntiodd yr araith ar addysgu, dysgu, atebolrwydd a chydweithio. Roedd hefyd yn sôn am yr heriau sy’n ein hwynebu, gan gynnwys canlyniadau PISA, a sut gallwn ni ymateb i’r heriau hynny.
Mae'r Gweinidog dros Addysg, Leighton Andrews, wedi lansio cynllun peilot newydd gwerth £900,000 i helpu pobl ifanc rhwng 16 a 17 oed i gael gwaith, fel rhan o Gynllun Gweithredu Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Bydd Huw Lewis, y Dirprwy Weinidog dros Blant, yn cyfarfod â Gweinidogion o bob rhan o’r Deyrnas Unedig i drafod Hawliau Plant. Bydd hefyd yn tynnu sylw at y flaenoriaeth y mae Cymru’n parhau i’w rhoi i Blant a Phobl Ifanc.
Mae’r dogfen yn rhoi canllawiau a chyngor yn amlinellu’r rôl sydd gan ysgolion i’w chwarae wrth ddatblygu a chefnogi dulliau strategol o hyrwyddo a chynnal cydlyniant cymunedol ac atal eithafiaeth dreisgar.
Mae Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid sy’n darparu cymorth ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl o gyflawni trosedd, neu wedi gwneud hynny, wedi gwella, ond mae angen gwneud mwy o waith i fynd i’r afael ag anghysondebau. Datganiad i’r wasg a’r adroddiad.
Bydd y ddogfen ganllawiau yn helpu athrawon, gweithwyr iechyd proffesiynol, gweithwyr cymdeithasol, yr heddlu ac ymarferwyr allweddol eraill yng Nghymru i fynd i’r afael â chamfanteisio rhywiol. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi comisiynu Barnardo’s Cymru i ddarparu hyfforddiant yn ystod mis Mawrth i gynorthwyo gyda rhoi’r canllawiau hyn ar waith.
Mae consortiwm o brifysgolion o Gymru wedi cael ei ddewis i gynnal Canolfan Hyfforddi Ddoethurol, a fydd yn darparu cymorth a hyfforddiant ar gyfer hyd at 115 o ôl-raddedigion y flwyddyn yng Nghymru.
Bydd dau adeilad addysgol newydd, sydd wedi cael eu hadeiladu gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn cael eu hagor yn swyddogol gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
Coleg Morgannwg has won the Association of Colleges’ President’s Award at a ceremony in London (9 Feb).
The Government has published the findings from the review of the Vetting and Barring Scheme.
In this clip, Professor Dylan Wiliam talks about the importance of teachers trying out new ideas, reflecting upon their impact and being open to changing their thinking about what effective practice involves. More and Promoting good practice.
In this clip, Sir Jim Rose discusses effective CPD processes, in particular the value of teachers observing each other. More
Hello, the National Year of Speech, Language and Communication has officially launched. The Hello campaign will make communication for all children and young people a priority in homes and schools across the country in 2011, so that they can live life to the full.