
Heddiw, croesawodd Leighton Andrews y Gweinidog Addysg gyhoeddi canllawiau ar gyfer ysgolion yng Nghymru i helpu iddynt benderfynu a ddylent gau yn ystod tywydd drwg eithriadol. Datganiad i’r wasg a Chanllawiau i ysgolion
Efallai y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg os ydych yn 16, yn 17 neu’n 18 oed ar 31 Awst 2011 ac os ydych yn parhau i astudio cwrs amser llawn neu’n astudio am o leiaf 12 awr yr wythnos mewn coleg.
Cyflwynodd y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes y Mesur Cynulliad Addysg (Cymru) arfaethedig i’r Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher 8 Rhagfyr. Mae’r Mesur arfaethedig yn darparu bod pwerau a dyletswyddau’n cael eu rhoi yn eu lle i wneud cydweithio yn y system addysg yn beth cyffredin, i wella llywodraethu ysgolion a symleiddio’r gwaith o gynllunio llefydd mewn ysgolion yng Nghymru.
Croesawodd Leighton Andrews, Gweinidog Cymru dros Addysg, gyllid ychwanegol i leihau'r pwysau sydd ar gyllid myfyrwyr.
Mae'r ddogfen hon yn darparu gwybodaeth am gynlluniau cymhelliant hyfforddi athrawon. Mae’n amlinellu’r cyllid sydd ar gael, yn dweud pwy sy’n gymwys i gael grantiau a sut y gwneir y taliadau.
Mae’r Gweinidog wedi rhyddhau Datganiad Ysgrifenedig ar yr Adolygiad o Addysg Gerddoriaeth ar gyfer dysgwyr 3-19 yng Nghymru, a gomisiynwyd gan Lywodraeth y Cynulliad. Trwy’r Datganiad hwn, mae wedi cymeradwyo cyhoeddi adroddiad yr Adolygiad ac “Ymateb gan y Gweinidog” sy’n canolbwyntio ar yr argymhellion yn yr adroddiad a anelir at Lywodraeth y Cynulliad.
Cyhoeddwyd holiadur ymgynghori ar gyfer Plant a Phobl Ifanc gan Llywodraeth Cynulliad Cymru heddiw "Trefniadaeth ysgolion - newidiadau posibl i'r broses". Yr holiadur a’r ymgynghoriad
Er bod y ddarpariaeth ar y cyfan yn ddigonol yng Nghymru, canfu’r adroddiad gan grwp trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad, bod angen dileu ambell i lond llaw o wasanaethau gwael eu darpariaeth er mwyn i bobl ifanc sy’n agored i niwed elwa ohono fel llwybr i gyflogaeth.
Mae myfyrwyr blwyddyn naw sy’n dewis eu hopsiynau yn cael eu hannog i edrych ar ieithoedd tramor modern mewn golau newydd. Nod CGC Ieithoedd ar gyfer Busnes, a gafodd ei dreialu mewn 17 o ysgolion yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yw paratoi disgyblion ar gael gyrfaoedd llwyddiannus.
Mae Inspire > Aspire yn esblygiad o’r rhaglen Learning for Life bu llawer o ganolfannau yng Nghymru’n cymryd rhan ynddi llynedd. Gweithgaredd dosbarth unigryw ar gyfer dysgwyr 12-18 oed yw Inspire > Aspire, ac mae’n galluogi pobl ifanc i ddatblygu cynllun gweithredu sydd wedi’i ysbrydoli gan werthoedd Olympaidd a rhinweddau cymeriad sy’n nodweddiadol o bencampwyr Olympaidd a Pharalympaidd. Er mwyn cymryd rhan mae angen i chi lenwi’r ffurflen gais ar-lein erbyn 31 Ionawr 2011. Cysylltwch â swyddfa Cymru am gyngor pellach.
Mae tystiolaeth ymchwil wedi dangos mai dim ond 25% o gyfle sydd gan y plant hynny nad ydynt yn llythrennog erbyn iddynt gyrraedd 11 oed i wella’u sgiliau erbyn iddynt gyrraedd 14 oed. I’r unigolion hynny felly, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i godi ymwybyddiaeth ymhlith rhieni a gofalwyr am bwysigrwydd darllen y tu hwnt i’r ysgol gynradd.
Bydd y digwyddiad hwn yn dod â phartneriaid sydd â diddordeb ynghyd er mwyn codi ymwybyddiaeth o fanteision gwaith ieuenctid dwyieithog/ Cymraeg. Mae’n gyfle hefyd i edrych ar ddatblygiad cyfleoedd i wella defnydd y Gymraeg mewn cyd-destunau ffurfiol ac anffurfiol fel ei gilydd. I gadw lle cysylltwch â Sally Jones
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
Highlighting common success factors across the case study examples, this report offers useful learning to partners and all organisations engaged in seeking ways to address similar issues with disadvantaged young people.
Do you ever need access to research based evidence or have difficulty in tracking down the most relevant and up to date research? If the answer is yes, then you may be interested in the Educational Evidence Portal (www.eep.ac.uk)
With 24 countries participating in the 2010 Eurydice reporting exercise on ‘New Skills for New Jobs’, the consultation provided a unique opportunity to gather information on recent national developments in skills forecasting and to assess how this information is channelled into education and training provision.
The Department for Education aims to make its statistical publications relevant and useful. This consultation allows the Department to gather users views on the annual publication Education and Training Statistics for the United Kingdom: (the UK volume) which is published in November each year. Survey