
Bwriad y ddogfen hon yw cynorthwyo â'r gwaith o ddatblygu trefniadau effeithiol ar gyfer Consortia Ysgolion/Sefydliadau Addysg Bellach. Mae'n cynnig fframwaith canllawiau hyblyg i gefnogi Partneriaethau Dysgu sy'n bwriadu hyrwyddo'r trawsnewid ôl-16 drwy sefydlu consortia Ysgolion/Sefydliadau Addysg Bellach.
Gall ymweld a gwybodaeth ar gyfer ceisiadau am gymryd rhan wrth ei chyflwyno o flwyddyn academaidd 2011/12. Mae croeso i geisiadau oddi wrth bawb sy’n darparu dysgu 14-19 oed yng Nghymru a dylent gael eu cyflwyno erbyn 8 Tachwedd 2010 fan bellaf.
Fel rhan o’i rhaglen Buddsoddi mewn Ansawdd (BmA), mae APADGOS yn darparu Cyllid Gwella Ansawdd (CGA) er mwyn helpu darparwyr i ddatblygu gweithgareddau penodol sy’n ceisio gwella ansawdd y dysgu .Bydd darparwyr yn gallu gwneud cais am grant o hyd at £6,000. Mae’r gronfa ar gael i bob darparwr ôl-16 y mae Llywodraeth y Cynulliad yn eu cyllido i ddarparu dysgu cymunedol (DC), addysg bellach (AB) a dysgu'n seiliedig ar waith (DSW) neu ddysgu ar gyfer troseddwyr. Y dyddiad cau er mwyn gwneud cais yw 11 Hydref 2010.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru newydd gyhoeddi'r ddogfen arfer dda hon. Mae'n rhoi trosolwg cryno o'r wybodaeth a'r materion allweddol i ysgolion a lleoliadau addysg o ran hybu iechyd a lles emosiynol plant a phobl ifanc.
Mae’r ddogfen hon, sy’n disodli’r cylchlythyr canllawiau blaenorol, yn cynnig canllawiau ynghylch sut dylai ysgolion ddatblygu eu polisi addysg rhyw, cynllunio a chyflwyno eu darpariaeth addysg rhyw a pherthnasoedd a gweithio mewn partneriaeth ag eraill. Mwy
sgiliaucymru yw’r digwyddiad mwyaf sy’n digwydd yng Nghymru yn Stadiwm y Mileniwm a p’un a ydych chi’n berson ifanc neu’n oedolyn gallwch chi ddod draw i ddysgu am yrfaoedd a sgiliau.
Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus gyda nifer o adrannau AG ysgolion yn y flwyddyn ysgol 2009/2010, caiff cymedroli asesiad athrawon yn allanol ar gyfer AG ei weithredu'n genedlaethol yn raddol ar gyfer pob ysgol prif ffrwd. Caiff manylion pellach eu hanfon at benaethiaid ym Medi 2010. Rheolir y gwaith hwn ar ran APADGOS gan CBAC. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â asesu@cymru.gov.uk
Mae ymweliadau dilyswyr yn canolbwyntio ar systemau asesu ysgol gyfan a sut mae ysgolion yn defnyddio gwybodaeth asesu. Yn dilyn ymweliadau dilyswyr â’r holl ysgolion prif ffrwd, bydd gwaith peilot yn mynd rhagddo yn yr hydref i ymestyn eu hymweliadau i ysgolion arbennig. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â asesu@cymru.gov.uk
Mae cystadleuaeth o'r enw Geir-IAU/CLIC yn annog plant a phobl ifanc i gydio mewn beiro, nodiadur, recordydd sain neu gamera fideo er mwyn cofnodi'r pethau da y mae pobl o'u cenhedlaeth nhw yn eu gwneud gartref, yn yr ysgol ac yn eu cymuned.
Lansiwyd WULF ym mis Ebrill 1999 er mwyn meithrin gallu o fewn mudiad yr Undebau i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd dysgu ar gyfer unigolion a chyflogwyr fel ei gilydd. Bydd rownd nesaf Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yn dechrau ar 1 Medi 2010 ac yn dod i ben ar 31 Hydref 2010.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cynnal ymgynghoriad ar Feini prawf drafft ar gyfer Cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Er mai annog ymateb gan sefydliadau dyfarnu ac eraill a enwir yn y llythyr yw’r prif nod, rydym yn croesawu sylwadau gan eraill sydd â diddordeb yn y maes hefyd. Meini prawf drafft a’r llythyr eglurhaol.
Mae arolygwyr addysg o bob cwr o Ewrop yn ymweld â Chymru’r mis hwn i fynychu digwyddiad mawreddog, sef y Gynhadledd Ryngwladol Sefydlog i Arolygiaethau, sy’n para deuddydd, lle byddant yn rhannu eu gwybodaeth a’u profiad o asesu ansawdd addysg.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
The digest shows the proportions of teachers in the categories of gender, age, sector and employment status (permanent or supply). The digest includes figures for overseas trained teachers and instructors, who are now required to register provisionally with the GTC.
This report focuses on the factors that contribute positively to Finnish pupils’ success in mathematics and considers the implications for policy and practice in England.
The Local Government Association commissioned NFER to undertake research on the current ‘fitness for purpose’ of the Information, Advice and Guidance services provided to young people in the 14-19 context and to identify improvement and support needs for Local Authorities (LAs).
The Education and Skills Act 2008 legislated to raise the age of compulsory participation in education or training until at least 18 by 2015 and until the end of year in which young people turn 17 in 2013.