
Yn y rhifyn hwn ceir diweddariad ar y Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4 a’r diweddaraf am Fagloriaeth Cymru.
Mae Geraint Talfan Davies wedi cael ei gadarnhau’n Gadeirydd y Bwrdd Gweithredu Cysgodol ar gyfer y Coleg Ffederal, a fydd yn goruchwylio datblygiad cyfreithiol y coleg ffederal addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn ystod y flwyddyn i ddod.
Diben y prosiect ymchwil hwn oedd ymchwilio’n ansoddol i’r ffactorau sy’n rhwystro ac yn ysgogi pobl i gymryd rhan mewn addysg, dysgu a hyfforddiant. Canolbwyntiodd yr ymchwil ar brofiadau a safbwyntiau dau grŵp ar wahân nas clywir yn aml: y rheini ag anghenion o safbwynt sgiliau sylfaenol a gweithwyr nad oes ganddynt gymwysterau.
Yn 2009, cynhaliodd APADGOS adolygiad ymgynghorol allanol o system gwybodaeth reoli (MIS) a systemau ariannu a chasglu gwybodaeth Ôl-16. Roedd yr astudiaeth yn cadarnhau bod angen symleiddio’r systemau a’r prosesau ariannu Ôl-16 a’r System Gynllunio ac Ariannu Genedlaethol (NPFS), a bod angen system newydd yn lle’r hen un mewn sawl achos. Mewn ymateb i’r canfyddiadau hyn, lansiwyd prosiect ym mis Chwefror 2010 i edrych ar y systemau a’r prosesau presennol, gan gynnwys data a thaliadau Addysg Bellach, data Dysgu Seiliedig ar waith (WBL), Contractau Proffilio, a Thalu Darparwyr. Bydd y prosiect yn edrych ar amryw o opsiynau lefel uchel cyn argymell ateb i symud ymlaen. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Philip Paine.
Ceir crynodeb yn y cylchlythyr hwn o'r themâu allweddol a ddaeth i'r amlwg yn ystod dau weithdy a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr ar gyfer rhanddeiliaid. Daeth rhanddeiliaid o'r sector addysg bellach ynghyd yn ystod y gweithdai hyn i drafod canfyddiadau Arolwg Llais y Dysgwr 2009 ym maes Addysg Bellach.
Parhaodd merched i berfformio’n well na bechgyn ym mhob Cyfnod Allweddol yn 2009, gyda’r bwlch mwyaf yng Nghyfnod Allweddol 3 a’r bwlch lleiaf yng Nghyfnod Allweddol 4. Roedd y bwlch rhwng y rhywiau ar ei leiaf ym Mathemateg a Gwyddoniaeth, ac ar ei fwyaf yn Saesneg a Chymraeg Iaith Gyntaf yng Nghyfnodau Allweddol 1 i 3 yn 2009.
82 y cant o garfan blwyddyn 11 ag addysg lawn-amser (79 y cant yn 2008), sy’n parhau â’r cynnydd cyffredinol dros y blynyddoedd diweddar. Aeth 60 y cant o garfan blwyddyn 13 i sefydliad addysg uwch, gan gynnwys y rheini sydd yn cymryd blwyddyn allan, o’i gymharu â 59 y cant yn 2008.
Bydd JISC RSC Cymru yn rhedeg cyfres o ddigwyddiadau rhyngweithiol ar draws Gymru rhwng Ebrill a Mai 2010. Prif amcan y sesiynau yw ystyried pam a sut gellir defnyddio technoleg i achosi gwelliant sefydliadol. Dyma restr o’r digwyddiadau: Ebrill 27ain Abertawe, Mai 11eg, Nantgarw a Mai 18fed Deganwy
Derbyniwyd cyfanswm o 26,421 o ymgeiswyr gan sefydliadau Cymreig ar gyfer 2009. Roedd hyn yn gynnydd o 12 y cant ar 2008 a 44 y cant yn uwch na 1997. Derbyniwyd 20,196 o ymgeiswyr sy'n hanu o Gymru gan sefydliadau'r DU - roedd hyn 9 y cant yn fwy na 2008 ac 39 y cant yn uwch na 1997.
Nod y Cynllun Fetio a Gwahardd newydd yw diogelu plant ac oedolion agored i niwed drwy sicrhau nad yw pobl y bernir eu bod yn achosi risg yn cael gweithio gyda hwy. Paratowyd canllawiau cyffredinol ar y Cynllun Fetio a Gwahardd ar gyfer cyflogwyr, ymgeiswyr a defnyddwyr eraill y cynllun.
Yn 2008/09 bu 213 gwaharddiad parhaol, gostyngiad o 241 yn 2007/08. Roedd y gyfradd uchaf o waharddiadau parhaol, 2.2 gwaharddiad i bob 1,000 o ddisgyblion, yng Nghaerdydd (gyda 45 gwaharddiad parhaol). Roedd dim gwaharddiad parhaol ym Mro Morgannwg, Sir Benfro a Sir Fôn.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn ddwyieithog)
This paper summarises ten key issues for data relating to employment and skills in the UK, and explores in what ways these might be improved to support the continued improvement of the UK’s LMI landscape.
This edition of talisman focuses on those not in education, training or employment. It features organisations who are helping young people make a living, look at the value of Workstep, celebrate those who’ve gained outstanding grades and includes the with the latest news and views.
This is the latest edition of the FE and Skills e-newsletter - a direct news and information link from BIS to the further education (FE) and skills sector.
This month’s edition includes an update on improving access into teaching for disabled people, funding for dyslexia training, plus the work of parent support advisers.