
Bwriad y cylchlythyr yw adrodd ar ddatblygiadau polisi ym myd addysg a hyfforddiant ôl-14 yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r Gweinidog dros Addysg Jane Hutt wedi ymweld ag Ysgol Uwchradd Casnewydd yn y Betws i amlinellu ei blaenoriaethau gwario ar gyfer cyllideb ddrafft yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau sydd dros £2 biliwn yn 2010/11. Yn ogystal â dyrannu arian sylweddol i gyflawni ymrwymiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Cymru’n Un, mae’r Gweinidog wedi sicrhau bod swm ychwanegol o arian gwerth £20.5 miliwn ar gael er mwyn helpu’r bobl ifanc hynny sydd wedi dioddef fwyaf yn sgil y dirywiad economaidd. Mae’r arian yn cynnwys £13 miliwn ar gyfer ehangu’r rhaglen Adeiladu Sgiliau a’r cynllun Llwybrau at Brentisiaethau. Mae hefyd £6.7 miliwn ar gael ar gyfer y Warant i Bobl Ifanc, sy’n cynnwys Cronfa Swyddi’r Dyfodol. Cyllideb ddrafft Hydref 2009
Datganiad i’r wasg gan Andrew Davies, Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, Andrew Davies
Mae Rhwydwaith Gwrth-fwlio Cymru wedi cyhoeddi cyfres o weithdai gwrth-fwlio Taith Parch 2009, sydd i’w cynnal mewn nifer o wahanol fannau ledled Cymru. Mae’r Sioe Deithiol, sy’n cael ei noddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn cael ei chydlynu gan NSPCC Cymru a’i chefnogi gan Stonewall Cymru, Barnardos Cymru a Plant yng Nghymru. Dyma gyfle gwych i ddysgu sut i ddelio â bwlio mewn ysgolion. Mae’r gweithdai ar gyfer disgyblion, plant, staff cymorth a swyddogion allweddol o’r awdurdod lleol.
Mae'r ddogfen hon yn ymgynghori ar adolygu'r set bresennol o godau a chanllawiau ar bresenoldeb ysgol ac ar gyflwyno codau caled terfynol ac ystyron ystadegol i'r system rheoli presenoldeb electronig. Mi fydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 31 Rhagfyr.
Nod y canllaw yw cynorthwyo partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf i gael gwell dealltwriaeth o'r materion sy'n effeithio ar dlodi plant ac mae'n nodi gweithgareddau a fydd yn cael effaith sylweddol ar brofiadau bywyd plant a phobl ifanc.
Lansiwyd rhith-ganolfan sgiliau gyffrous newydd rhwng Prifysgolion Aberystwyth a Bangor gan Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, John Griffiths. Diben Canolfan Sgiliau Aber-Bangor yw mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau ar lefel uwch yng Nghymru a chryfhau cysylltiadau rhwng y ddwy brifysgol, cymunedau busnes y Canolbarth a’r Gogledd, a’r Cynghorau Sgiliau Sector. Mae’r fenter wedi cael cymorth gwerth £400,000 trwy law CCAUC dros gyfnod o 18 mis.
Fel rhan o werthusiad yr Arsyllfa Dysgu a Sgiliau (LSO) ac adolygiad cylchlythyr Dysg, mae gennym ddiddordeb mewn dod i ddeall eich anghenion o ran gwybodaeth am sgiliau a dysgu. Er mwyn i ni wneud hyn byddwn yn ddiolchgar petaech yn medru treulio rhai munudau i gwblhau’r holiadur hwn. Bydd eich ymatebion yr ymatebion yr ydych yn eu cynnig yn helpu i gyfeirio’r wybodaeth sydd ar gael o gylchlythyr Dysg a gwefan yr LSO a’r modd y mae’n cael ei gyflwyno yn y dyfodol.
Cynhaliwyd yr Wythfed Uwch-gynhadledd Economaidd yn Swyddfa Eiddo Deallusol, Casnewydd. Dan arweiniad Prif Weinidog Cymru, fe’i mynychwyd gan arweinwyr busnes, undebau llafur, y banciau a sefydliadau ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn ddwyieithog)
The study provides a detailed picture of the context and organisation of national tests in 30 European countries and the use made of test results in informing education policy and practice and in guiding the school career of pupils. It presents the diverse choices made by European countries regarding the objectives, frequency and scope of national tests and points to important Europe-wide patterns and trends.
The study aimed to assess the range, effectiveness and quality of financial education currently provided in Scottish primary and secondary schools. The following methods were used to undertake the evaluation: A desk-based literature review; An online schools survey; Audience review involving qualitative interviews and group interviews in selected schools with head teachers, teachers and pupils; Stakeholder interviews and a consultation event.
Faced with the worst recession for many years, it's more important than ever that we keep the skills of the UK's workforce up to date and adaptable. Training, in all its guises, is fundamental to this so we need highly skilled teachers, tutors, trainers, assessors and support staff as well other learning related roles.
The latest edition of the Training and Development Agency (TDA) for schools newsletter can be accessed here
**Os dymunwch dderbyn y cylchlythyr wythnosol yn y Gymraeg, anfonwch e-bost at rhys.davies4@wales.gsi.gov.uk.
This newsletter may contain links to websites that are created and maintained by other organizations. The Dysg newsletter does not necessarily endorse the views expressed on these websites, nor does it guarantee the accuracy or completeness of any information presented there.