
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, “Roedd gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru drwch blewyn o dan dair mil a hanner o fyfyrwyr yn sefyll arholiadau yng Nghymru heddiw. Bydd eraill yng Nghymru yn sefyll arholiadau gyda Chyrff Dyfarnu eraill.
“Hyd y gallwn gadarnhau, llwyddodd pob canolfan yng Nghymru i agor ei drysau i fyfyrwyr oedd yn sefyll arholiadau gan gynnwys ym Merthyr Tudful, lle gwnaed trefniadau i’r ymgeiswyr sefyll eu harholiadau mewn man canolog. Mae’r wybodaeth a gawsom gan rai o’r ardaloedd yr effeithiwyd waethaf arnynt, gan gynnwys Ceredigion a Merthyr Tudful, yn awgrymu fod pob ymgeisydd o’r bron wedi llwyddo i fod yn bresennol.
“Mae’r Gweinidog yn llongyfarch y canolfannau am ymdrechu mor galed i agor eu drysau i fyfyrwyr oedd yn sefyll arholiadau a hynny mewn amgylchiadau anodd. Er mai iechyd a diogelwch yr ymgeiswyr a’r staff sydd bwysicaf bob amser, mae’n bleser nodi na amharwyd gormod ar yr arholiadau, hyd yn hyn beth bynnag. Bydd yr ymgeiswyr yn falch iawn eu bod wedi medru sefyll yr arholiadau a hwythau wedi gweithio mor galed ar eu cyfer dros yr wythnosau diwethaf.
“Bydd yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, ynghyd â’r rheoleiddwyr yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, y Cyd-gyngor Cymwysterau, a’r Cyrff Dyfarnu yn cyfarfod yn ddyddiol i fonitro’r sefyllfa.”
Ceir rhagor o wybodaeth am y trefniadau ar gyfer y tywydd garw gan y Cyd-gyngor Cymwysterau a gellir ei weld ar wefan y Cyd-gyngor
Yma, ceir atebion i gwestiynau cyffredin ynghylch cau ysgolion oherwydd tywydd garw.
Bellach bydd mwy na 50,000 o ddysgwyr yn cael cyfle i fanteisio ar Gymhwyster Bagloriaeth Cymru ac mae hynny diolch i gyflwyno dwsinau o ganolfannau newydd ledled Cymru. Cyhoeddodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg y bydd nifer y canolfannau sy’n cynnig Bagloriaeth Cymru yn cynyddu ym mis Medi 2010 o 167 i 217, gan groesawu tua 7,000 o ddysgwyr newydd.
(Yn anffodus, nid yw'r erthygl ar gael yn ddwyieithog)
These Regulations amend the duty in regulations 10(8) and 24(7) respectively, of the 2006 Regulations so as to allow governing bodies of maintained schools a discretion to not advertise a vacancy in the post of head teacher and deputy head teacher if certain conditions are satisfied.
Mae Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb, wedi cyhoeddi manylion ail ran i brosiectau sy'n cael eu hariannu gan y Gronfa Buddsoddi i Arbed a fydd yn darparu gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithiol ac effeithlon. Y prosiectau diweddaraf i gael eu cymeradwyo: Integreiddio gwasanaethau ar gyfer myfyrwyr ac ymwelwyr yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd, a thrwy hynny'n darparu siop-un-stop effeithlon ac effeithiol. Yn ogystal, strategaeth gwario-i-arbed Maethu Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac Adolygiad Systemau Darbodus o wasanaethau asesu a rheoli achosion plant a phobl ifanc.
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau gwerthusiad ansoddol o'r rhaglen Dechrau'n Deg, sy'n edrych ar brofiadau'r defnyddwyr a hanlyniadau Dechrau'n Deg ar gyfer teuluoedd. Mae'r adroddiad yn ystyried i ba raddau y mae'r ddarpariaeth Dechrau'n Deg ar gael ac o fewn cyrraedd hawdd, a hynny drwy gynnal cyfweliadau gyda darparwyr a defnyddwyr hawliau Dechrau'n Deg. Y mae hefyd yn edrych ar brofiad y rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth ac unrhyw effeithiau ar deuluoedd o ganlyniad i'r rhaglen Dechrau'n Deg.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn ddwyieithog)
Research shows pupils could improve by two grades at GCSE with a computer at home. Unemployed parents say having the internet has helped them apply for jobs and get better skills.
Cabinet Ministers today hosted international Ministers at the annual Learning and Technology World Forum, representing one billion children in the world, along with other leaders in technology and learning. The UK now leads the world in technology for education. UK education and skills exports are worth around £28billion annually, making the UK a world leader in meeting the accelerating demand in this dynamic sector.
The need to improve health in further education is a key priority for many organisations, FE colleges, primary care trusts and local authorities must work together to equip young people with the necessary skills and information to make healthy lifestyle choices.
In summer 2007 PricewaterhouseCoopers LLP (PwC) was commissioned by the DCSF to undertake an independent evaluation of the Making Good Progress (MGP) Pilot. This is the final report of the two year evaluation. The MGP Pilot aims to respond to the challenge of continuing to raise educational achievement by focusing on progression as well as attainment in five key strands: Assessment for Learning, Single Level Tests, Progression Tuition, Progression Target and Progression Premium.