
Gwelodd y Gweinidog dros Addysg, Leighton Andrews, sut mae bron i £6 miliwn o arian cyfalaf Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi helpu i weddnewid cyfleusterau addysg yn y Gogledd.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu 10 gweithgaredd hyfforddiant mewn swydd (HMS) gyda’r pwyslais ar addysgu sgiliau ysgrifennu ym mhob pwnc ar draws y cwricwlwm yng Nhyfnodau Allweddol 2 a 3.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu 10 gweithgaredd hyfforddiant mewn swydd (HMS) gyda’r pwyslais ar addysgu uwch sgiliau darllen ym mhob pwnc ar draws y cwricwlwm yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3.
Dylai ysgolion ddarparu cyfleoedd, lle bo’n briodol, i ddysgwyr 11–19 oed datblygu eu hymwybyddiaeth o’r maes gyrfaoedd a’r byd gwaith a sut mae eu hastudiaethau’n cyfrannu at baratoi ar gyfer bywyd gwaith.
Mae’r 'Sgiliau a dysgu mewn Gyrfaoedd' a’r byd gwaith' yn amlygu’r datganiadau neu’r adrannau hynny o fewn deilliannau dysgu gyrfaoedd a’r byd gwaith lle ceir cysylltiad pendant â datblygu meddwl, cyfathrebu, TGCh a rhif.
Croesawodd y Gweinidog dros Addysg, Leighton Andrews, benodiad Dr Emyr Roberts fel Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS).
20 Hydref 2010 fydd y tro cyntaf i Ddiwrnod Ystadegau’r Byd gael ei gynnal. Dyma gyfle i edrych ar ba mor bwysig yw ystadegau yn ein byd. Mae Stats4Schools, yn darparu cynlluniau gwersi sy’n dangos sut mae ystadegau yn dylanwadu ar ein bywydau. Beth am ddysgu mwy am ystadegau Cymru? Ewch i’r brif ffynhonnell ar gyfer ystadegau Cymru, trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Lansiwyd prosiect llythrennedd gwybodaeth Cymru gyfan gyda’r nod o sicrhau bod Cymru’n elwa ar fanteision cymdeithasol, economaidd ac addysgol poblogaeth sydd â sgiliau llythrennedd gwybodaeth cynhwysfawr.
Cwta flwyddyn sydd ar ôl cyn y gystadleuaeth sgiliau fwyaf yn y byd. Mae tri cham pwysig gall pob ysgol a choleg eu cymryd nawr er mwyn dechrau paratoi: Cadw dyddiad WorldSkills London 2011 yn rhydd trwy ei ychwanegu at eich calendr ysgol neu brosbectws eich coleg, cofrestru ar ein gwefan i dderbyn y newyddion diweddaraf a manylion am ddeunyddiau addysg am ddim ac yn olaf rhannu’r wybodaeth ac anfon y neges yma ymlaen at eich cydweithwyr.
Byddai ymweliad ag un sefydliad cenedlaethol mewn diwrnod yn ddigon i’r mwyafrif o ysgolion, ond nid i bedair ysgol yng Ngheredigion a Phowys.
Mae’r adroddiad gwerthuso hwn yn asesu effaith y gronfa Cymorth ar feithrin gallu partneriaeth, ar gyflenwi gwasanaethau ataliol, a’i dylanwad ar ddarpariaeth gwasanaethau prif ffrwd.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
This survey set out to determine the benefits of employers’ involvement in government-funded work-related education and training, to identify the features of good practice and the ways in which the provision could be further improved.
Following completion of the Sector Skills Council relicensing process in early 2010, the UK Commission committed to undertake an evaluation of the SSC Relicensing process.
Research by NFER found that in the first new school building to open, pupil attitudes to school and the school environment improved substantially. However, to date no research has been published on attendance and attainment outcomes for young people. This article suggests that whilst at this stage attainment at BSF schools is not yet improving at the rate possibly expected at the start of the programme, there are potentially some early signs of improved attendance.