
Heddiw cyhoeddodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, y byddai dros £165,000 yn cael ei ddarparu er mwyn sicrhau parhad prosiect arloesol sy’n hybu canu mewn ysgolion. Daeth gwerthusiad i’r casgliad bod y prosiect hwn yn taro’r nodyn cywir.
Crynodebau yw'r Adroddiadau Deilliannau Dysgwyr o'r cyfraddau llwyddiant a gyflawnwyd gan bob darparwr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. O 2011 ymlaen, byddwn yn cyhoeddi'r adroddiadau hyn bob blwyddyn i roi gwybod i ddysgwyr, cyflogwyr, rhieni a'r cyhoedd yn gyffredinol am ganlyniadau dysgu seiliedig ar waith a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Mae colegau addysg bellach a darparwyr dysgu yn y gwaith yn rhoi gofal, cymorth ac arweiniad da i ddysgwyr o ardaloedd difreintiedig, ond mae angen iddynt wneud yn siŵr bod y dysgwyr hyn yn cyflawni eu potensial. Datganiad i’r wasg ac Adroddiad Estyn
Wrth i ddiwedd tymor a gwyliau’r haf agosáu, dyma gyfle amserol i’ch atgoffa am faterion sy’n ymwneud â phriodasau dan orfod a’r risg sy’n gysylltiedig â phlant na fydd yn dychwelyd i’r ysgol ar ôl toriad yr haf. Mae angen i ysgolion barhau i fod yn wyliadwrus o beryglon cudd priodas dan orfod. Mae canllawiau proffesiynol statudol ar gael i helpu i adnabod yr arwyddion a sut i ddelio ag achosion posibl Priodas dan Orfod.
Cyhoeddodd Jeff Cuthbert, y Gweinidog Sgiliau, heddiw fod un ar ddeg o sefydliadau o Gymru wedi sicrhau’r hawl i ‘Arddangos’ eu sgiliau yng nghystadleuaeth sgiliau fwyaf y byd.
Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf (o’i gymharu â mis Ionawr 2010): 30 yn llai o ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol (ALlau) a 965 yn llai o ddisgyblion; 2 yn fwy o ysgolion annibynnol; 432.2 yn llai o athrawon (cyfwerth ag amser llawn) yn y sector a gynhelir gan ALlau.
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau adolygiad annibynnol o wasanaethau Cymorth yr Iaith Gymraeg i Ysgolion (gwasanaeth Athrawon Bro) a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn Chwefror 2010.
Gyda dim ond 8 diwrnod ar ôl i lenwi’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol, mae Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru’n annog ysgolion i gymryd rhan ynddo. Dim ond rhyw 25 munud mae’n ei gymryd i ddisgyblion lenwi’r holiadur ar-lein. Bydd data ar gael i ysgolion unigol yn yr hydref a bydd y data yma’n cynnwys edrych ar beth sy’n cymell ac yn atal disgyblion rhag cymryd rhan mewn chwaraeon. Bydd hefyd yn edrych ar les disgyblion.
Caiff darlith eleni ei thraddodi gan Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru.
Gellir lawrlwytho’r pecyn adnodd oddi ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n darparu cyflwyniad i Biennale Fenis a gwaith Tim Davies, yr artist a ddewiswyd i gynrychioli Cymru yn Fenis yn 2011. Cynlluniwyd y pecyn ar gyfer ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 er gall gael ei ddefnyddio’n ogystal gan myfyrwyr hÅ·n ac fel canllaw cyffredinol.
Dyma adnodd rhyngweithiol ar gyfer datblygu sgiliau cyfansoddi’r dysgwyr, maent yn cael cyfle i gynllunio a datblygu eu cyfansoddiad.
Cyfres gynhwysfawr o adnoddau amlgyfrwng i gefnogi addysgu cynhyrchion graffig ym manyleb CBAC ar gyfer TGAU.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
The first report Early Intervention: the next steps was published in January, it underlined that many of the costly and damaging social problems for individuals can be eliminated or reduced by giving children and parents the right type of evidence based programmes 0-18 and especially in their earliest years. The second report sets out how we can pay for those programmes within existing resources and by attracting new non government money.
Four schools and one college sent more students to Oxbridge over three years than 2,000 schools and colleges across the UK, reveals the latest report on university admissions by individual schools by the Sutton Trust.
These tables show the applicants and applications received by 30 June 2011.