
Cwblhawyd peilot, yn cynnwys grwpiau clwstwr o'r rhan fwyaf o'r awdurdodau lleol, i ymestyn manteision cymedroli allanol i Gyfnod Allweddol 2 ym mis Ionawr. Ystyriwyd canlyniadau'r peilot ac rydyn ni wrthi ar hyn o bryd yn cynllunio ar gyfer gweithredu'n genedlaethol. Yn y flwyddyn ysgol 2011/12, byddwn yn cydweithio ag ysgolion i gymedroli safonau diwedd Cyfnod Allweddol 2 yn Saesneg, Cymraeg a Chymraeg ail iaith. Rhagwelir y bydd cymedroli gwyddoniaeth a mathemateg ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 yn dilyn yn y flwyddyn ysgol 2012/13. (gwefan CBAC)
Bellach mae’r Proffil Effeithiolrwydd Ysgolion ar-lein ar gael i bob ysgol yng Nghymru ei ddefnyddio. Caiff cyfrineiriau unigryw eu dosbarthu i ysgolion drwy swyddogion rheoli gwybodaeth awdurdodau lleol. Mae’r Proffil ar-lein wedi’i ddatblygu yn dilyn ceisiadau gan ysgolion am i fersiwn electronig gael ei chreu er mwyn hwyluso’r broses hunan-werthuso ar gyfer Cwestiwn Allweddol 3 am ba mor dda yw’r arweiniad a’r rheoli?. Proffil Effeithiolrwydd Ysgolion – canllaw cyfeirio cyflym, Proffil Effeithiolrwydd Ysgolion – ar-lein a gwefan y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion
Mae llythyr ynglŷn â’r cynnydd gyda’r prosiect Rhifau Unigryw Dysgwyr yng Nghymru wedi’i dosbarthu. Llythyr a mwy o wybodaeth
Ar y cyfan, parhaodd 83 y cant o garfan blwyddyn 11 ag addysg lawn-amser (82 y cant yn 2009), sy’n parhau â’r cynnydd cyffredinol dros y blynyddoedd diweddar.
Parhaodd merched i berfformio’n well na bechgyn ym mhob Cyfnod Allweddol yn 2010, gyda’r bwlch mwyaf yng Nghyfnod Allweddol 3 (CA3) a’r bwlch lleiaf yng Nghyfnod Allweddol 4 (CA4).
Nifer cyfartalog y diwrnodau a gollwyd fesul ysgol oedd 1.4. Dim ond 3 ysgol roedd wedi cau am fwy na wythnos.
Derbyniwyd 25,162 o ymgeiswyr gan sefydliadau Cymreig. Roedd hyn 5 y cant yn llai na 2009, ond dal yn gynnydd o 6 y cant ar 2008 a 37 y cant yn uwch nag 1998.
Mae’r Wobr Aur ar gyfer person ifanc yng Nghymru sydd wedi cyfrannu’n fawr i’r celfyddydau, gwyddoniaeth neu dechnoleg er budd pobl Cymru. Y dyddiad cau yw 30 Mehefin 2011.
Nod Dathlwch Benwythnos Gwyllt dros Gymru yw gwella bioamrywiaeth trwy helpu pobl i gyfl awni prosiectau bach fydd yn elwa rhywogaethau brodorol a chreu hafanau newydd ar gyfer bywyd gwyllt. Y dyddiad cau yw’r 9 Mai - gall ysgolion a mudiadau gwneud cais.
Fe’i cyflwynir gan Matthew Horne, a rhy’r rhaglen y sgiliau angenrheidiol i chi ddatblygu yn eich gwaith trwy ganolbwyntio ar: bendantrwydd, arwerthu, sgiliau cyfweld, sgiliau cyflwyno a rheoli amser.
Cyfres o weithgareddau cychwynnol/crynhoi sydd wedi'u llunio er mwyn datblygu sgiliau meddwl Mae'r pecyn yn cynnwys adnoddau ar y prif heriau gwleidyddol a chymdeithasol oedd yn wynebu America ar ddechrau'r 20fed ganrif.
Mae’r unedau yma yn ymwneud â’i waith sydd yng nghasgliad Oriel Ynys Môn, Ynys Môn. Bwriad yr unedau yw i ddisgyblion cael mynediad i arddull, themâu a thechnegau gweithio Syr Kyffin Williams, drwy dasgau a thaflenni gwybodaeth.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
Between September 2009 and March 2010, Her Majesty’s Inspectors visited 47 schools to evaluate how effectively the partnership between parents and schools had developed.