
Mae Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg, wedi croesawu pwerau newydd sy'n dod i rym sy'n egluro rôl athrawon mewn perthynas â disgyblu a gwahardd disgyblion.
Yn ystod mis Tachwedd, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn canolbwyntio'i waith cyfathrebu ar blant a phobl ifanc a'r amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw yng Nghymru.
Diben y ddogfen ymgynghori hon yw ceisio’ch barn ar y canllawiau arfer gorau i gyrff llywodraethu a phenaethiaid ar faterion sy’n ymwneud â safon toiledau a chyfleusterau cysylltiedig sy’n ofynnol mewn ysgolion yng Nghymru.
Rydyn ni’n galw ar bobl ifanc yng Nghymru sydd rhwng 14 a 18 oed i wneud cais i fod yn Hyrwyddwr Newid Hinsawdd heddiw! Bydd pob Hyrwyddwr yn llefarydd ar y newid yn yr hinsawdd yng Nghymru, gan ddangos i bobl yn ei ardal a ledled Cymru sut y gall pawb leihau eu hôl troed carbon. Mae’n brofiad hynod werthfawr ar gyfer yr Hyrwyddwyr a’u hysgolion. Bydd y gystadleuaeth yn cau ddydd Gwener 19 Tachwedd.
Ar ddydd Mercher,(27 Hydref), cyhoeddodd Lesley Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau, prosiect gwerth £3 miliwn i gynyddu nifer y peirianwyr, gwyddonwyr, technegwyr a mathemategwyr yn y gweithlu yng Nghymru.
Cyfanswm lefel y cronfeydd wrth gefn yn ysgolion Cymru oedd £71 miliwn ar 31 Mawrth 2010, sy'n gyfwerth â £157 y disgybl. Mae hyn yn ostyngiad o 4.4% ar y flwyddyn flaenorol.
Mae penderfyniad wedi’i wneud i ddirwyn Cynllun CDU Cymru i ben erbyn 31 Mawrth 2011. Bydd y briff holi ac ateb canlynol yn rhoi mwy o wybodaeth am ddirwyn Cynllun CDU Cymru i ben.
Ydych wedi ymweld â gwefan Llais Disgyblion Cymru yn ddiweddar? Os nad ydych, pam nad ydych yn cael cip arni? Mae’na lwyth o adnoddau newydd yno I gefnogi disgyblion a staff wrth weithredu llais y disgybl yn effeithiol. Ewch i weld drostoch chi eich hunan ar: www.llaisdisgyblioncymru.org.uk
Mae Gweithio gyda Chymunedau'n amlinellu'r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth y Cynulliad o sicrhau gweithlu tra medrus sy’n meddu ar gymwysterau ar lefel uchel ym maes datblygu cymunedol i Gymru.
Ar y cyfan, gwnaeth 8,170 o fyfyrwyr mewn Addysg Bellach gais am Grant Dysgu’r Cynulliad erbyn diwedd Gorffennaf 2010, cynnydd o 22 y cant o’i gymharu â 2008/09. Nifer y ceisiadau llwyddiannus oedd 6,550 (80 y cant o’r ceisiadau), cynnydd o 25 y cant o’i gymharu â 2008/09.
Mae myfyrwyr yn Ysgol y Preseli sy’n astudio ar gyfer Bagloriaeth Cymru, sydd â rhan ohono’n edrych ar safle Cymru yn Ewrop a’r byd, wedi bod yn datblygu syniadau a maniffestos mewn rhaglen bartneriaeth arloesol gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ar sut i wella a datblygu ein gwefan. Cymrwch yr arolwg byr a dweud eich dweud. Bydd eich barn chi yn ein helpu ni i wella ein gwasanaeth. Cwblhewch yr arolwg bodlonrwydd cwsmeriaid.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ar ddull newydd o weithredu o ran gofalu am ein hamgylchedd. Yn Cymru Fyw, disgrifir dull o weithredu newydd a mwy integredig o ran rheoli’r amgylchedd naturiol. Lleisiwch eich barn ar ein fforwm ar-lein ac ymatebwch i’r ymgynghoriad erbyn 31 Rhagfyr 2010.
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau canlynol ar gael yn y Gymraeg)
The focus of this e-bulletin is to report on key developments in employment and skills, from the perspectives of research and policy.
The broad overall aim of this research is to find out how funding can best be targeted so as to engage disadvantaged children and young people in activities through extended schools.
The overall aim of the study was to explore the issues faced by Gypsy, Roma and Traveller pupils and to offer parents, schools and local authorities a range of possible methods for improving the outcomes for this group.
This report details the findings of research undertaken between March and June 2010. The aim was to conduct a strategic review, examining how support for employer engagement in the further education and skills sector can be strengthened and improved.