
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n ymgynghori ar gynigion i ailfodelu’r system cyllid myfyrwyr yng Nghymru ar gyfer israddedigion llawnamser. Mae'n ystyried y canlynol: ailfodelu’r system cyllid myfyrwyr, ehangu cyfranogiad, mynd i'r afael â dyledion myfyrwyr a buddsoddi yn y sector addysg uwch.
Mae’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau wedi cymeradwyo’r Cylch Gorchwyl ar gyfer yr Adolygiad o Wasanaethau Gyrfaoedd yng Nghymru. Cafodd yr Adolygiad ei gomisiynu fel rhan o strategaeth Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru a chynllun gweithredu Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ei ddiben fydd penderfynu pa mor alluog yw’r Gwasanaethau Gyrfaoedd i ymateb i ddatblygiadau polisi, newidiadau demograffig a’r amodau economaidd ar hyn o bryd a’r amodau posibl yn y dyfodol.
Bydd rhaglen cyfalaf ysgolion Cymru yn derbyn buddsoddiad ychwanegol gwerth £24 miliwn gan y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol. Bydd yr arian yn ychwanegol at yr adnoddau cyfalaf gwerth £168 miliwn y flwyddyn sy’n cael eu buddsoddi mewn ysgolion ar hyn o bryd.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi rhaglenni ychwanegol sy'n werth £68 miliwn i helpu unigolion, cymunedau a busnesau ledled Cymru drwy'r dirywiad economaidd presennol. Daw'r rhaglenni newydd hyn, a gyhoeddwyd yn y drydedd Uwch-gynhadledd Economaidd yng Nghaerdydd, ar ben yr £877 miliwn o gymorth a gyhoeddwyd eisoes ers yr Uwch-gynhadledd gyntaf ym mis Hydref. Mae'r mesurau heddiw yn cynnwys ProAct - rhaglen newydd i ddarparu hyfforddiant i bobl a fyddai fel arall yn ddi-waith neu mewn swydd tymor byr.
Yn 2007/08, fe ymadawodd 604 o ddisgyblion 15oed addysg llawn amser heb gymhwyster cydnabyddedig. Mae hyn yn is na’r cyfanswm am 2006/07 o 682. Wedi'i fynegi fel canran o'r garfan ymadawodd 1.5 y cant o ddisgyblion 15 oed ag addysg llawn amser heb gymhwyster cydnabyddedig yn 2007/08, canran llai nag yn 2006.
Enillodd 58 y cant o ddisgyblion 15 mlwydd oed y trothwy lefel 2, 3 pwynt canran yn uwch nag yn 2006/07 a 10 pwynt canran yn uwch o'i gymharu â 1998/99. Ar gyfer disgyblion 17 mlwydd oed, Enillodd 94 y cant o'r disgyblion a gofrestrwyd ar gyfer 2 Safon Uwch neu gyfwerth y trothwy Lefel 3, yr un canran ag yn 2006/07 ond 3 pwynt canran yn uwch o'i gymharu â 1998/99.
Mae'r ffigurau dros dro yn dangos gostyngiad mewn niferoedd dysgwyr ar draws pob sector (Sefydliadau AB, Dysgu yn y Gymuned AALl, a darpariaeth Dysgu Seiliedig ar Waith) rhwng 2006/07 a 2007/08, er bod ffigurau diwedd blwyddyn wedi cynyddu ar gyfer rhai mathau o raglenni dysgu.
Wrth fynd ati heddiw i lansio agenda polisi cyntaf Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer pobl ifanc anabl yng Nghymru, y neges a gafwyd gan Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, a’r Gweinidog dros Blant, Jane Hutt, oedd bod yn rhaid rhoi cyfle cyfartal a’r cyfleoedd gorau posibl mewn bywyd i blant a phobl ifanc anabl.
Ar y cyfan, gwelwyd cynnydd yn lefelau cymhwyster yng Nghymru yn 2007, yn cynnal y cynnydd cyffredinol dros y blynyddoedd diweddar. Roedd yna gynnydd o 1 pwynt canran ar gyfer bob un o'r cyfrannau o oedolion â lefel 2 neu uwch, lefel 3 neu uwch a lefel 4 neu uwch. Rhagamcanwyd bod 15 y cant o oedolion oed gweithio yng Nghymru heb gymhwyster, un pwynt canran yn llai nag yn 2006. Mwy
Erbyn canol Tachwedd 2008 roedd 43,800 o fyfyrwyr wedi llwyddo yn eu cais am gymorth o dan rheoliadau mynediad 2006/07. Derbyniodd 33 y cant o'r myfyrwyr yma Grant Dysgu'r Cynulliad llawn a derbyniodd 26 y cant grant rhannol. Derbyniodd 41 y cant ddim grant. Mwy
Mae’r boblogaeth 0-19 mlwydd oed yng Nghymru wedi bod yn lleihau ers oddeutu 1999, ac amcanestynnir y bydd y boblogaeth hon yn parhau i leihau tan 2014 pan fydd yn cyrraedd ei lefel isaf. Bydd y boblogaeth yn codi wedyn tan 2026, cyn lleihau’n raddol o’r flwyddyn honno ymlaen. Mwy
(Yn anffodus, nid yw'r erthyglau ar gael yn ddwyieithog)
The Government today committed to the introduction of new legislation to improve the lives of children and families, drive up standards in schools and to make the education and training system for young people and adults more responsive and flexible.
Some twenty five million employees are set to benefit from a new right to request time at work to undertake training, thanks to a new Bill in today's Queen's Speech. The Bill will give each employee the right to request relevant training they need to improve their skills and to have these requests properly considered by their employer.
More 16- and 17-year-olds have a chance to carry on in education or training than ever before, Government figures reveal today. 94 per cent of 16-year-olds (compared to 91 per cent last year) say they intend to continue learning and have received a suitable offer. The September Guarantee aims to offer a suitable place to every young person leaving compulsory education who wants one. This year, the September Guarantee has also been extended to 17-year-olds.
Schools Secretary Ed Balls and Schools Minister Jim Knight unveiled a vision for the 21st Century School, which will focus on every child and be at the heart of the community. They also revealed more details of the School Report Card, which will give parents a clearer picture of school performance.
Skills Secretary John Denham and Schools Secretary Ed Balls announced that Simon Waugh has been appointed the first chief executive of the new National Apprenticeship Service (NAS). The NAS will deliver an expanded apprenticeship programme and will provide a single point of contact for employers who want to offer apprenticeships and for prospective apprentices.