
Ddoe (Tachwedd 17) cyhoeddodd Y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb, Jane Hutt Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer 2011-2012. Mae’r Gyllideb Ddrafft yn pwysleisio ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i warchod iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion a sgiliau ac mae’n darparu cymorth hollbwysig i’r bobl hynny yn ein cymdeithas sydd fwyaf agored i niwed; mae’n cynorthwyo plant a phobl hŷn ac mae’n rhoi hwb i’n heconomi fregus.
“Rydym wedi bod yn strategol a phragmataidd yn y ffordd yr ydym yn neilltuo ein harian. Trwy amddiffyn cyllidebau ysgolion, sgiliau a’r blynyddoedd cynnar ac wrth anrhydeddu ein hymrwymiadau presennol, byddwn yn parhau i sicrhau fod Cymru’n llwyddo ym maes addysg.”
Mae’r Gyllideb a ddyrannwyd i Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn adlewyrchu’r ymrwymiad cadarnhaol i amddiffyn cyllid ysgolion a sgiliau, a’r gwasanaethau rheng flaen hynny sy’n effeithio’n uniongyrchol ar blant.
Wrth edrych ymlaen dros y tair blynedd nesaf, bydd APADGOS yn derbyn cynnydd o £10.8m mewn cyllid refeniw sylfaenol. Er hynny, bydd gostyngiad o £21.1m yn y flwyddyn nesaf, a chynnydd o £8.6m yn 2012-13 a £23.3m yn 2013-14.
Fodd bynnag cwtogwyd cyllid cyfalaf gan £10.1m y flwyddyn nesaf gyda gostyngiadau pellach o £12.1m, (7%) a £17.5m, (10.9%) dros y ddwy flynedd ganlynol o 2012-13.
Cyllideb Ddrafft Tachwedd 2010