
Ers mis Mai 2010, pan lansiwyd ‘Meic’, gwasanaeth eiriolaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae bron 4,000 o blant a phobl ifanc wedi defnyddio’r gwasanaeth dros y ffôn neu drwy negeseuon testun a negeseua gwib. Ar ddydd Llun 8fed Tachwedd bydd y gwasanaeth i blant dan 7 oed yn lawnsio yn Sŵ Mynydd Bae Colwyn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gweithio gyda Calon, cynhyrchwyr y rhaglen deledu Hanna’s Helpline, er mwyn cynhyrchu fideo sy’n dangos cymeriadau anifeilaidd o’r rhaglen yn trafod eu problemau a sut i gysylltu â Meic. Clip fideo o lawnsiad Meic yn Wrecsam
Nod y gynhadledd yw cyflenwi pobl broffesiynol ym maes addysg gyda’r sgiliau, gwybodaeth, a’r ddealltwriaeth i fynd i’r afael â bwlio ar sail rhywiau mewn ysgolion. Bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i fynychwyr drafod gydag asiantaethau y fath o gefnogaeth sydd ar gael i ysgolion. Cwblhewch y ffurflen erbyn 5ed Tachwedd 2010.
Ymatebion i lythyr ‘Her yr Haf’ (13th October)
Grŵp Gorchwyl a Gorffen Sefydlu Strwythur y Gwasanaethau Addysg (14 October)
Mae cynllun Cronfa Ymddiriedolaeth Plant Cymru yn ychwanegu £50 at gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant pob plentyn ym Mlwyddyn 1. Rhoddir £50 ychwanegol i bob plentyn o deuluoedd ag incwm isel. Byddem yn ddiolchgar pe gallech helpu i annog rhieni i wneud cais cyn y dyddiad cau, sef 31 Ionawr 2011. Datganiad i’r wasg a mwy o wybodaeth
Mae Rhaglen Dechrau’n Deg Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd ledled Cymru, meddai Huw Lewis y Dirprwy Weinidog Plant. Wrth siarad yn ystod trafodaeth ar adroddiad Gwerthusiad Dros Dro y Rhaglen Dechrau’n Deg, tynnodd Mr Lewis sylw at y manteision yr oedd plant a theuluoedd wedi’u gweld eisoes ers i’r rhaglen ddechrau dair blynedd yn ôl. Datganiad i’r wasg a’r Gwerthusiad Interim Dechrau'n Deg
Mae’r adroddiad gwerthuso hwn yn darparu tystiolaeth o’r hyn y mae Cymorth wedi’i gyflawni o ran sefydlu seilweithiau partneriaeth i gefnogi darpariaeth gwasanaethau pobl ifanc mewn ardaloedd difreintiedig.