
Ar 15 Gorffennaf, anfonodd y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes lythyr at benaethiaid sefydliadau a chyrff sy'n cynrychioli'r sector, fel cam dilynol i adroddiad PricewaterhouseCoopers, 'Adolygiad o’r gost o weinyddu’r system addysg yng Nghymru - Cam 1'. Darllenwch y llythyr, mwy o wybodaeth ar yr adolygiad, ac ymatebwch i’r her
Nod yr adroddiad yw rhestru’r holl ddogfennau yr anfonodd y Gweinidog at benaethiaid yng Nghymru yn y flwyddyn academaidd flaenorol (2009-10). Y nod yw rhoi’r holl ganllawiau mewn un adroddiad er mwyn bod yn gyfeirbwynt brys i chi, eich cydweithwyr a’ch cyrff llywodraethu.
Mae 'Undod ac amrywiaeth' yn rhoi canllawiau ynglyn â chyfleoedd i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol, ac amrywiaeth ethnig, diwylliannol, ieithyddol a chrefyddol yn y cwricwlwm ysgol yng Nghymru.
I gefnogi gweithwyr proffesiynol addysgol i gael dealltwriaeth gliriach a gwell o’r fframwaith arolygu newydd, mae Estyn newydd gyhoeddi nifer o ddogfennau.
Mae’r Cod yn nodi egwyddorion a safonau allweddol ymddygiad ac ymarfer da i athrawon cofrestredig yng Nghymru. Bwriedir iddo lywio gweithredoedd a phenderfyniadau athrawon a rhoi gwybodaeth i rieni, disgyblion a’r cyhoedd am y safonau y gallant eu disgwyl gan athrawon cofrestredig.
Mae'r Canllaw i rieni yn amlinellu sut y mae’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru, a’r trefniadau asesu a chyflwyno adroddiadau yn gysylltiedig â’i gilydd.
Cyfres Pen-i-Waered (Canolfan Astudiaethau Addysg) - pum llyfr pen-i-waered i blant 5-7 oed sydd â stori ar y naill ochr a gwybodaeth ffeithiol sy'n ymwneud â'r ochr ffuglen ar y llall. Y Gem Werdd - Gêm Blas ar Fyw! (Atebol) - gem i greu ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd a materion amgylcheddol. Am fwy o wybodaeth, ewch i adran Llyfrau Newydd ar gwales.com
Mae’r adroddiadau yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar anghenion chwarae plant ac ar sut y maent yn hoffi chwarae.
Gwefan newydd sbon i hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP)
Ewch i fwrw golwg ar ar ein gwefan, sy'n llawn adnoddau defnyddiol a gwybodaeth am y CCUHP. www.uncrcletsgetitright.co.uk
Mae cystadleuaeth o'r enw Geir-IAU/CLIC yn annog plant a phobl ifanc i gydio mewn beiro, nodiadur, recordydd sain neu gamera fideo er mwyn cofnodi'r pethau da y mae pobl o'u cenhedlaeth nhw yn eu gwneud gartref, yn yr ysgol ac yn eu cymuned.
Mae'r gwerthusiad yn rhoi adroddiad ar lwyddiannau Dechrau'n Deg o ran yr amodau angenhreidiol ar gyfer rhoi cymorth effeithiol i blant o dan anfantais.
Mae treulio deng munud yn darllen gyda phlentyn bob dydd yn gallu gwneud gwir wahaniaeth i lythrennedd plant. Dyna oedd neges y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mwy a Chris Corcoran yw arwr darllen cyntaf Cymru
Mae Gwasanaethau Cwnsela mewn Ysgolion yn helpu miloedd o blant a phobl ifanc fod yn fwy hyderus yn yr ysgol a gwella’u presenoldeb, dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg.
Mae Huw Lewis y Dirprwy Weinidog Plant wedi cyhoeddi “Ardaloedd Arloesi Teuluoedd yn Gyntaf” cyntaf Cymru fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i gefnogi teuluoedd a mynd i’r afael â thlodi plant.