
Mae’r cylchlythyr cynradd wedi ei baratoi’n unswydd ar gyfer ymarferwyr yn y cyfnod sylfaen a’r sector cynradd. Bydd y cylchlythyr yn cael ei gyhoeddi bob bythefnos ar ddydd Iau.
Croesawodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y ffaith bod gwaith Llywodraeth y Cynulliad o weithredu polisi arloesol y Cyfnod Sylfaen ar gyfer yr holl blant 5 - 6 mlwydd oed yng Nghymru yn mynd rhagddo’n llwyddiannus.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn gosod y gofynion statudol ar gyfer asesiad athrawon yn y flwyddyn ysgol 2010/11. Mae'n crynhoi manylion trefniadau asesu statudol yng Nghyfnodau Allweddol 1 a 2 a 3 mewn un llyfryn, ac yn disodli’r llyfrynnau ar wahân blynyddoedd blaenorol ar gyfer y Cynradd a Chyfnod Allweddol 3.
Wrth i ysgolion cynradd baratoi ar gyfer yr arolwg presnenoldeb blynyddol ar 24 Medi 2010, nodwch fod canllawiau ar gael ar wefan Llywodraeth Cynuliad Cymru.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru newydd gyhoeddi'r ddogfen arfer dda hon. Mae'n rhoi trosolwg cryno o'r wybodaeth a'r materion allweddol i ysgolion a lleoliadau addysg o ran hybu iechyd a lles emosiynol plant a phobl ifanc.
Mae’r ddogfen hon, sy’n disodli’r cylchlythyr canllawiau blaenorol, yn cynnig canllawiau ynghylch sut dylai ysgolion ddatblygu eu polisi addysg rhyw, cynllunio a chyflwyno eu darpariaeth addysg rhyw a pherthnasoedd a gweithio mewn partneriaeth ag eraill.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi comisiynu Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain, mewn partneriaeth ag Ipsos Mori, i asesu effaith ac effeithiolrwydd y Strategaeth Cwnsela mewn Ysgolion.
Mae Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg, wedi cyhoeddi pecyn cyllid gwerth £4 miliwn ar gyfer hyfforddi ymarferwyr cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar.
Mae Huw Lewis, y Dirprwy Weinidog dros Blant, wedi annog athrawon ac ymarferwyr Cymru i gofrestru ar gyfer cynhadledd addysg a gynhelir ar 17 Medi fydd yn canolbwyntio ar les emosiynol a chymdeithasol disgyblion, myfyrwyr ac athrawon Cymru.
Mae gwefan Llais Disgyblion Cymru yn esbonio beth yw cyfranogiad disgyblion, pam ei fod yn bwysig a sut y gall wneud pethau’n well i bawb yn yr ysgol. Er mwyn gwneud y safle hwn yn fwy rhyngweithiol fyth, cafodd cystadleuaeth clip fideo 'Eich Dyfodol Eich Delweddau' ei lansio. Mae dyddiad cau’r gystadleuaeth wedi’i ymestyn i 18 Hydref 2010. Dysgwch fwy a sut i fynd amdani.
Cyhoeddwyd cynigion i leihau’r cyfnod a ganiateir i’r broses gyfreithiol wrth newid trefniadaeth ysgolion. Mae’r ddogfen ymgynghori yn ceisio’ch barn am leihau’r cyfnod sydd ar gael i unigolion wrthwynebu’r cynigion cyhoeddedig sy’n ymwneud â threfniadaeth ysgolion. Datganiad i’r wasg ac Ymgynghoriad
Mae’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes wedi cyhoeddi y caiff ysgolion prif ffrwd dau ddiwrnod ychwanegol o HMS ym mlwyddyn ysgol 2010/11 i helpu i roi’r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion ar waith. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am sylwadau ar drefniadau arfaethedig blwyddyn ysgol 2010/11 ac ar ofynion diwrnodau HMS ychwanegol yn y dyfodol.
Yng nghyfnod Allweddol 1, roedd canran y disgyblion a lwyddodd i gyrraedd o leiaf y lefel ddisgwyliedig yn uwch neu’r un peth ym mhob pwnc o'i gymharu â 2009, mae hyn o leiaf 2 bwynt canran yn uwch ym mhob pwnc nag yr oedd yn 1999.
Yng Nghyfnod Allweddol 2, cyrhaeddodd 35.4 y cant o ddisgyblion y lefel ddisgwyliedig (lefel 4 neu uwch) yng Nghymraeg Ail Iaith.