
Heddiw, mae Ei Mawrhydi y Frenhines wedi cadarnhau bod y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC wedi’i benodi’n Brif Weinidog Cymru, yn sgil ei enwebu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ddydd Mercher, 11 Mai. Yn awr bydd y Prif Weinidog yn dechrau ar y broses o benodi Cabinet newydd.
Mae dau ganllaw newydd ar gael ar gyfer cefnogi addysg grefyddol yng Nghyfnod Allweddol 2 a 3. Mae’r dogfennau Addysg grefyddol: Canllawiau ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 a 3 a Proffiliau enghreifftiol dysgwyr yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 mewn addysg grefyddol: Canllawiau ychwanegol yn ategu’r gwaith o gyflawni’r fframwaith enghreifftiol trwy ddarparu negeseuon allweddol ar gyfer cynllunio dysgu ac addysgu.
Dyma gyfle i bobl ifanc Cymru ehangu eu dealltwriaeth am ddiwylliant a’u sgiliau llythrennedd drwy fyd ffilm a FILMCLUB – cynllun sy’n derbyn grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae croeso i bob ysgol yng Nghymru, ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd fel ei gilydd, ymuno â’r gwasanaeth.
Mae pob un o’r ysgolion a gymerodd ran yn rhaglen peilot CânSing yn cael ei gwahodd i gyfranogi mewn diwrnod o ddathlu. Cynhelir Diwrnod CânSing Cenedlaethol ddydd Mawrth 21 Mehefin 2011 - i gydfynd gyda Diwrnod Cerdd y Byd!
Nod menter Blas am Oes Llywodraeth Cynulliad Cymru yw gwella’r bwyd a’r diod a ddarperir mewn ysgolion. Mae’r wybodaeth hon, sydd ar ffurf Cwestiynau Cyffredin, wedi ei pharatoi ar gyfer Llywodraethwyr Ysgol i’w helpu i ddeall Blas am Oes a sut y gallan nhw roi hwb i’r gwaith.
Adnodd dysgu sy'n cymharu dwy wlad (Ecuador a Chymru). Mae'r gwledydd yn cael eu cymharu gan ddefnyddio'r themau canlynol: y fforest law / coedwigoedd, tai a phobl ac ailgylchu.
Mae’r unedau yma yn cynnig cyswllt at adnoddau Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n cefnogi addysgu a dysgu ar gyfer Daearyddiaeth CA2 a CA3 yn ogystal ag ABCh ac ADCDF.
(Yn anffodus, nid yw'r erthygl canlynol ar gael yn y Gymraeg)
Mae'r Clip DVD yn sôn am gyfuno'r elfennau sy'n helpu ysgol i fod yn gynaladwy gan gynnwys ymgynghori â'r disgyblion a'r staff wrth ei dylunio a'i chodi ac wrth gyflwyno'r cwrícwlwm.
Mae’r cystadleuaeth yn fenter sy’n rhoi cyfle ardderchog i ddysgwyr rhwng 9 ac 16 oed ar draws y DU gyfan i gael eu hysbrydoli i fod yn greadigol. Er mwyn annog dysgwyr i gymryd rhan mae’r dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth wedi’i ymestyn hyd 20 Mai, mae’n adeg delfrydol i hybu dysgwyr yng Nghymru i gymryd rhan.