
Cwblhawyd peilot, yn cynnwys grwpiau clwstwr o'r rhan fwyaf o'r awdurdodau lleol, i ymestyn manteision cymedroli allanol i Gyfnod Allweddol 2 ym mis Ionawr. Ystyriwyd canlyniadau'r peilot ac rydyn ni wrthi ar hyn o bryd yn cynllunio ar gyfer gweithredu'n genedlaethol. Yn y flwyddyn ysgol 2011/12, byddwn yn cydweithio ag ysgolion i gymedroli safonau diwedd Cyfnod Allweddol 2 yn Saesneg, Cymraeg a Chymraeg ail iaith. Rhagwelir y bydd cymedroli gwyddoniaeth a mathemateg ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 yn dilyn yn y flwyddyn ysgol 2012/13. Mwy (gwefan CBAC)
Bellach, mae’r Proffil Effeithiolrwydd Ysgolion ar-lein ar gael i bob ysgol yng Nghymru ei ddefnyddio. Caiff cyfrineiriau unigryw eu dosbarthu i ysgolion drwy swyddogion rheoli gwybodaeth awdurdodau lleol. Mae’r Proffil ar-lein wedi’i ddatblygu yn dilyn ceisiadau gan ysgolion am i fersiwn electronig gael ei chreu er mwyn hwyluso’r broses hunan-werthuso ar gyfer Cwestiwn Allweddol 3 am ba mor dda yw’r arweiniad a’r rheoli?. Proffil Effeithiolrwydd Ysgolion – canllaw cyfeirio cyflym, Proffil Effeithiolrwydd Ysgolion – ar-lein a gwefan y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion.
Nifer cyfartalog y diwrnodau a gollwyd fesul ysgol oedd 1.4. Dim ond 3 ysgol roedd wedi cau am fwy na wythnos.
Parhaodd merched i berfformio’n well na bechgyn ym mhob Cyfnod Allweddol yn 2010, gyda’r bwlch mwyaf yng Nghyfnod Allweddol 3 (CA3) a’r bwlch lleiaf yng Nghyfnod Allweddol 4 (CA4).
Gweithgareddau rhyngweithiol ar gyfer y bwrdd gwyn neu’r cyfrifiadur ar Atgyfodiad Iesu a sut mae Cristnogion yn dathlu’r Pasg heddiw.
Gellir defnyddio’r cynlluniau gwaith a’r cynlluniau gwers sydd yn cael eu cynnwys yn y pecyn gyda’r Cardiau Dysgu Awyr Agored (DAA) er mwyn ymateb i’r maes profiad Gweithgareddau Anturus yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Addysg Gorfforol ddiwygiedig 2008.
(Yn anffodus, nid yw'r erthygl canlynol ar gael yn y Gymraeg)
The PARADISO Project explores how the full benefits and potential of the Internet can be enjoyed by tomorrow’s societies. PARADISO has launched a drawing contest, which invites young people to draw or paint how they see the Internet affecting their lives in the future. The contest (closing date: June 30, 2011) is open to primary/elementary schools from Europe and other regions of the world.
Nod Dathlwch Benwythnos Gwyllt dros Gymru yw gwella bioamrywiaeth trwy helpu pobl i gyfl awni prosiectau bach fydd yn elwa rhywogaethau brodorol a chreu hafanau newydd ar gyfer bywyd gwyllt. Y dyddiad cau yw’r 9 Mai - gall ysgolion a mudiadau gwneud cais.