
Ym mis Hydref y llynedd, cyhoeddodd y Gweinidog dros Addysg fod grŵp gorchwyl a gorffen annibynnol yn cael ei sefydlu i ystyried y system gyfan dros y tymor hir ac a yw wedi’i strwythuro yn y ffordd orau i helpu dysgwyr i gyflawni eu potensial. Mae’r grŵp wedi edrych ar berfformiad darparwyr ar bob lefel: ysgolion, colegau, awdurdodau lleol, sefydliadau rhanbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys APADGOS. Erthygl a’r adroddiad.
Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn gofyn eich barn am gynigion i fireinio’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch, y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Penaethiaid a’r Safonau Diwedd Sefydlu.
Mae'r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes wedi anfon llythyr am rôl hanfodol cyrff llywodraethu wrth godi perfformiad mewn ysgolion.
Croesawodd y Dirprwy Weinidog dros Blant, Huw Lewis, ail Fonitor Lles Plant a Phobl Ifanc Cymru. Nod y Monitor yw adrodd ar les plant a phobl ifanc (0-25 oed) gan ddefnyddio amryw o ddangosyddion lles, canfyddiadau o’r sail dystiolaeth ehangach a sylwadau’r plant a’r bobl ifanc eu hunain. Datganiad i’r wasg, Monitor Lles Plant a’r e-gylchlythyr
Cresawodd Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg, benodiad Brett Pugh i arwain yr Uned Safonau Ysgolion o fewn Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae’r Canllawiau Gwyddoniaeth ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 a 3 wedi cael ei diwygio. Mae’r cywiriad yn ymddangos yn y fersiwn Saesneg o’r sylwadau sy’n gysylltiedig a proffil Ben ar dudalen 136.
Ysgrifennu'r wyddor gyda delweddau cysylltiedig.
Mae'r gweithgaredd rhyngweithiol hwn yn annog plant i feddwl o ble mae eu dŵr yn dod a faint maen nhw'n ei ddefnyddio mewn diwrnod nodweddiadol.
Mae deunyddiau ar-lein newydd fydd yn annog mwy o bobl ifanc sy’n agored i niwed mewn ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau, yn cael eu lansio gan y Dirprwy Weinidog dros Blant, Huw Lewis. Datganiad i’r wasg, Adnoddau Uned Cyfeirio Disgyblion ac Adnoddau Ysgolion Arbennig
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Blant, Huw Lewis, fod heddiw yn ddiwrnod hanesyddol ar gyfer hawliau plant yng Nghymru, y wlad gyntaf ym Mhrydain i wneud Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn rhan o'i chyfraith ddomestig.
Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Blant, Huw Lewis, enwau tair ardal arloesi newydd Teuluoedd yn Gyntaf. Ar ôl cyhoeddi enwau’r ddwy ardal gyntaf fis Gorffennaf diwethaf, gwahoddwyd awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau i fod yn ardaloedd arloesi cam 2.