
Mae'r Gweinidog dros Addysg, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi bod yr amser sydd gan bobl i wrthwynebu cynigion statudol yr awdurdodau lleol i ad-drefnu ysgolion wedi'i leihau o ddau fis calendr i un.
Bydd y cynadleddau’n hoelio sylw ar ymddygiad ac ar bresenoldeb yng nghyd-destun araith ddiweddar Leighton Andrews, y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes ‘Mae addysgu’n gwneud gwahaniaeth’.
Oes gennych chi diroedd ysgol gwych yr hoffech eu rhannu ag ysgolion eraill yng Nghymru? Mae Ysgolion yr 21ain Ganrif a Dysgu drwy Dirweddau Cymru yn awyddus i glywed gan ysgolion sydd â diddordeb er mwyn dewis astudiaethau achos i’w cynnwys yn y canllawiau ar diroedd ysgol.
Mae microwefan Addysg Ariannol newydd, a ddatblygwyd ar GCaD Cymru, bellach ar gael i roi gwybodaeth ac adnoddau addysgol i athrawon i’w helpu i roi addysg ariannol effeithiol fel rhan o’r cwricwlwm.
Cyflwynodd y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes araith ar 2 Chwefror 2011: Mae addysgu’n gwneud gwahaniaeth. Yn ogystal cynhaliodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ac Estyn Gynhadledd Addysg Genedlaethol ar 14 Chwefror. Gwyliwch y prif areithiau.
Bydd y ddogfen ganllawiau yn helpu athrawon, gweithwyr iechyd proffesiynol, gweithwyr cymdeithasol, yr heddlu ac ymarferwyr allweddol eraill yng Nghymru i fynd i’r afael â chamfanteisio rhywiol. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi comisiynu Barnardo’s Cymru i ddarparu hyfforddiant yn ystod mis Mawrth i gynorthwyo gyda rhoi’r canllawiau hyn ar waith.
Yn 2009/10 bu 185 gwaharddiad parhaol, gostyngiad o 213 yn 2008/09.
Mae’r gweithgareddau yn cynnwys fersiwn electronig o stori Dewi Sant, chwiloteiriau, gweithgareddau gosod mewn trefn a chyfateb, llyfr gwybodaeth, gêmau aml-ddewis, creu lluniau, gêm parau a jig-sos.
Mae'r uned yn rhoi sylw i gestyll ac mae cwestiynau am y gweithiau wedi eu darparu er mwyn ennyn trafodaeth.
Mae sicrhau bod gofal plant o ansawdd uchel ar gael am bris rhesymol i bawb yn hollbwysig yn yr ymgyrch i fynd i’r afael â thlodi plant. Dyna a ddywedodd y Dirprwy Weinidog Huw Lewis wrth iddo lansio Datganiad Polisi Gofal Plant Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer magu plant a chefnogi teuluoedd.
Mae’r dogfen yn rhoi canllawiau a chyngor yn amlinellu’r rôl sydd gan ysgolion i’w chwarae wrth ddatblygu a chefnogi dulliau strategol o hyrwyddo a chynnal cydlyniant cymunedol ac atal eithafiaeth dreisgar.