
Caiff y canllawiau eu darparu ar gyfer cyrff llywodraethu, uwch dimau rheoli ac ymarferwyr mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig ac mewn colegau, sydd â chyfrifoldeb am gynllunio a chyflawni agweddau ar addysg ariannol.
Mae'r gofynion ar gyfer cerddoriaeth yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 wedi eu gosod allan yn ‘Cerddoriaeth yn y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru’. Mae’r ddogfen yn cynnwys y rhaglenni astudio ar gyfer pob cyfnod allweddol, ynghyd â thargedau cyrhaeddiad a disgrifiadau lefel.
Bydd Uned Sgiliau Sylfaenol Llywodraeth y Cynulliad yn trefnu 3 gweithdy efo’r arbenigwr Gary Wilson, ar gyfer athrawon Cyfnod Allweddol 2 yn ystod mis Chwefror 2011. Mae Gary wedi ysgrifennu’n helaeth ar y pwnc ac mae galw ar ei amser i arwain gweithdai hyfforddi ledled Prydain. Cynhelir y gweithdai o 10yb hyd at 3.30yh. Am ragor o wybodaeth ac i sicrhau’ch lle e-bostiwch: bscnw@cymru.gsi.gov.uk gan nodi’ch enw, ysgol, a pa weithdy yr hoffech fynychu.
Helpwch ni i annog rhieni a gofalwyr cymwys i fuddsoddi yn nyfodol eu plant trwy ei atgofa i wneud cais am £50 neu £100 ar gyfer eu cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant cyn y dyddiad cau. Datganiad i’r wasg a mwy o wybodaeth
Bydd y Dirprwy Weinidog dros Blant Huw Lewis AC yn lansio gwasanaeth 24 awr ‘meic’ yn swyddogol yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd ar ddydd Mercher 26 Ionawr. Cofrestrwch yma ar gyfer y digwyddiad.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu. Mae'r ddogfen ymgynghoriad hon yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer yr iaith a'r hyn y byddwn yn ei wneud, gyda'n partneriaid, i gynyddu nifer y bobl sy'n siarad yr iaith ac yn ei defnyddio. Rydym yn croesawu sylwadau.
Mae'r adnodd rhyngweithiol hwn yn helpu plant i adnabod anifail sy'n byw yn yr amgylchedd o'u cwmpas, sut y mae'r tymhorau'n effeithio arno a sut y gall ein gweithredoedd ni gael effaith ar ei fywyd.
Cylchgrawn gwyddoniaeth a gaiff ei gyhoeddi bob tymor yw Gwyddoniaeth yn y Newyddion. Caiff yr erthyglau eu dewis i ennyn diddordeb a chyffroi myfyrwyr am bynciau sy’n cael eu trafod yn y cyfryngau ac sydd heb eu cynnwys yn y cwricwlwm.
Croesawodd y Gweinidog dros Addysg Leighton Andrews adroddiad sydd wedi edrych ar y posibiliadau o weithredu’r safonau bwyd a maeth a gynigir yng Nghynllun Gweithredu Blas am Oes yng Nghymru. Cafodd y Prosiect Ymchwil ei sefydlu ym mis Hydref 2008 mewn 9 ysgol beilot yn ardaloedd pedwar awdurdod lleol. Datganiad i’r wasg a’r Prosiect Ymchwil Weithredu.
Mae pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad wedi cytuno, mewn egwyddor, ar ddeddf arfaethedig i Gymru a fydd yn gorfodi awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu i sicrhau bod gwregysau diogelwch ar gael ar gludiant i ysgolion.