
Cyn bo hir, bydd ysgolion a cholegau addysg bellach Cymru yn cael y pŵer i sgrinio unrhyw ddisgybl am gyllell neu arf.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu 10 gweithgaredd hyfforddiant mewn swydd (HMS) gyda’r pwyslais ar addysgu sgiliau ysgrifennu ym mhob pwnc ar draws y cwricwlwm yng Nhyfnodau Allweddol 2 a 3.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu 10 gweithgaredd hyfforddiant mewn swydd (HMS) gyda’r pwyslais ar addysgu uwch sgiliau darllen ym mhob pwnc ar draws y cwricwlwm yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3.
Nod y gynhadledd yw cyflenwi pobl broffesiynol ym maes addysg â’r sgiliau, gwybodaeth, a’r ddealltwriaeth i fynd i’r afael â bwlio ar sail rhywiau mewn ysgolion. Bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i fynychwyr drafod gydag asiantaethau'r gefnogaeth sydd ar gael i ysgolion ar gyfer cyflenwi rhaglenni a gwasanaethau penodol sydd wedi’u targedu at blant a phobl ifanc. Dylai pobl sydd am fynychu’r gynhadledd gysylltu trwy’r e-bost â Debbie Hendy yn y NSPCC.
Nod cyffredinol yr ymchwil felly oedd pwyso a mesur barn rhieni/gofalwyr a phobl ifanc yng Nghymru.
Ymunodd aelodau o sgwad pêl droed Cymru â’r Gweinidog dros Addysg Leighton Andrews i annog plant a phobl ifanc i ddarllen.
Mae Popi Yma a Dacw’r Gwcw (Gwasg Gomer) – llyfrau o’r gyfres Pobl Pentre Bach sy’n seiliedig ar gymeriadau pentref Sali Mali. Bwystfilod a Bwganod (Gwasg Gomer)– y llyfr diweddaraf yn y gyfres Cyfres yr Onnen. Am fwy o wybodaeth, ewch i adran Llyfrau Newydd ar gwales.com
Yr hydref hwn mae Amnest hefyd wedi cynhyrchu pecyn adnoddau dwyieithog, rhad ac am ddim, yn benodol ar gyfer ysgolion cynradd Dysgu am Hawliau Dynol yn yr Ysgol Gynradd. Bydd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews AC a'r Comisiynydd Plant yng Nghymru, Keith Towler, yn bresennol yn lansiad yr adnodd newydd hwn yng Nghaerfyrddin dydd Gwener 15 Hydref 2010. Ewch i wefan Amnest am fwy o wybodaeth.
Cwta flwyddyn sydd ar ôl cyn y gystadleuaeth sgiliau fwyaf yn y byd. Mae tri cham pwysig gall pob ysgol a choleg eu cymryd nawr er mwyn dechrau paratoi: Cadw dyddiad WorldSkills London 2011 yn rhydd trwy ei ychwanegu at eich calendr ysgol neu brosbectws eich coleg, cofrestru ar ein gwefan i dderbyn y newyddion diweddaraf a manylion am ddeunyddiau addysg am ddim a rhannu’r wybodaeth ac anfon y neges yma ymlaen at eich cydweithwyr.
Byddai ymweliad ag un sefydliad cenedlaethol mewn diwrnod yn ddigon i’r mwyafrif o ysgolion, ond nid i bedair ysgol yng Ngheredigion a Phowys. Yr wythnos ddiwethaf cymerodd eu myfyrwyr ddiwrnod i ffwrdd i ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac adeilad Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Aberystwyth.
Bellach mae cymhwyster eirioli achrededig yn bodoli a gydnabyddir yn genedlaethol ac a danategir gan Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol. Mae’r pecyn tiwtor a hunanastudio ar gyfer y modiwl hyfforddi i ennill Tystysgrif Lefel 3 mewn Eiriolaeth Annibynnol gyda Phlant a Phobl Ifanc wedi’i gymeradwyo’n ffurfiol gan City & Guilds. Mwy (youtube) neu anfonwch e-bost am fwy o wybodaeth.