
‘Diben y datganiad hwn yw rhoi'r diweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r cynllun gweithredu ugain pwynt a gyhoeddais ar 2 Chwefror 2011, er mwyn gweddnewid perfformiad…’
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd i sicrhau bod cyfleusterau toiledau ysgol o’r safon uchaf bosibl. Diben y canllawiau yw egluro i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion beth yn union yw eu rolau a’u cyfrifoldebau wrth sicrhau bod toiledau ysgolion yn ddigonol ar gyfer plant a phobl ifanc. Mwy a’r datganiad i’r wasg
Bob blwyddyn, mae Prif Arolygydd Estyn yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol sy’n darparu asesiad cyffredinol o safonau a pherfformiad ysgolion, a darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru. I ddarllen yr adroddiad diweddaraf ac i wylio gweddarllediad gan Ann Keane yn trafod prif ganfyddiadau’r adroddiad, ewch i www.estyn.gov.uk
Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n trefnu cyfres o bedair cynhadledd addysg ar draws Cymru. Diben y cynadleddau hyn fydd cyflwyno'r newyddion diweddaraf i ymarferwyr ac i'r rhai hynny sy'n ymwneud â darparu a datblygu polisi addysg ynghylch hynt y gwaith a amlinellwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn ei gynlluniau i godi safonau ysgolion. Mwy o wybodaeth a’r agenda
Am y tro cyntaf y mis Ionawr hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau casglu gwybodaeth am iaith gyntaf pob disgybl o oed ysgol gorfodol ym mhob ysgol a gynhelir drwy broses y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD).
Ystadegau Ysgolion yn ôl Etholaeth a Rhanbarth Cynulliad, 2011
Dyma gyfres o ganeuon ar gyfer pob rhif o 1 - 10 y gellir ei canu gyda trac llais a trac heb lais.
Mae staff addysgu a staff cymorth mewn unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru’n gwneud gwaith anodd gyda disgyblion sydd ag ymddygiad heriol. At ei gilydd, maent wedi’u hyfforddi’n dda ac maent yn hyderus yn gweithio gyda disgyblion agored i niwed. Mwy a’r datganiad i’r wasg
Mae’r diweddariad isod yn darparu’r newyddion addysgol diweddaraf a chrynodeb o wybodaeth am gyhoeddiadau a digwyddiadau cyfredol.