
‘Diben fy natganiad (heddiw) yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am yr hyn sydd eisoes wedi’i wneud a’n hymrwymiadau parhaus yn unol â’n Rhaglen Lywodraethu i ariannu adeiladau a darpariaeth TGCh o safon drwy’r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.’
Mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ddulliau Addysgu Digidol yn yr Ystafell Ddosbarth wedi bod yn gweithio ers mis Medi yn adolygu’r ffordd orau o ddefnyddio technoleg i wella profiadau dysgwyr, y cydweithio rhwng athrawon a pherfformiad yn gyffredinol. Yn unol â’r amserlen wreiddiol y bwriad oedd cwblhau’r adolygiad ym mis Ionawr 2012 ond mae’r Gweinidog wedi cytuno i ymestyn yr amserlen wreiddiol hyd at fis Mawrth er mwyn llunio adroddiad manylach. Mae Cadeirydd y Grŵp, Janet Hayward, yn chwilio am enghreifftiau o arferion da o ddefnyddio technoleg mewn ystolion a darlithfeydd all gael eu rhannu, ac o bosibl eu cynnwys, yn rhan o adroddiad terfynol y grŵp. Os hoffech gynnig enghreifftiau o’r fath a fyddech cystal ag anfon manylion cryno a gwybodaeth gyswllt i’r blwch negeseuon canlynol. Y dyddiad cau ar gyfer anfon eich ymatebion yw 3 Chwefror 2012.
Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chwestiynau cyffredin ar brydau ysgol am ddim i gynnwys eglurhad ychwanegol ynglÅ·n â phwy sydd â’r hawl i brydau ysgol am ddim ac a all awdurdod lleol gofrestru disgyblion ar gyfer prydau ysgol am ddim os nad ydyw’r rhiant/gofalwr wedi gwneud cais ffurfiol.
Mae Llywodraeth Cymru yn trefnu cyfres o gynadleddau ‘Codi Safonau Ysgolion’ ledled Cymru. Pwrpas y digwyddiadau hyn fydd i gyflwyno i ymarferwyr y cynnydd sydd wedi digwydd ers 2 Chwefror 2011 pan fu’r Gweinidog yn cyflwyno ei gynlluniau i Godi Safonau Ysgolion. Bydd y cyntaf yn y gyfres o ddigwyddiadau yn cymryd lle ar 8 Mawrth 2012 yng Nghanolfan y Cenhedloedd yng Nghaerdydd. Leighton Andrews, Gweinidog Addysg a Sgiliau fydd y prif siaradwr yn y digwyddiad yma. Bydd tair cynhadledd arall yn cymryd lle yn ystod mis Mawrth: 13 Mawrth, Parc y Scarlets; 15 Mawrth - Venue Cymru, Llandudno a’r 20 Mawrth – Prifysgol Morgannwg. Byddwch cystal ag e-bostio i gofrestru’ch diddordeb mewn mynychu un o’r digwyddiadau.
Mae Llywodraeth San Steffan wedi torri cwys trwy sefydlu Deddf ‘Cydraddoldeb’ 2010 i gymryd lle 116 o wahanol statudau ym maes cydraddoldeb. Diben y rhain yw rhoi i’r ysgolion wybodaeth a meini prawf y gallan nhw eu defnyddio wrth baratoi’r cynlluniau strategol mae gofyn i’w cyhoeddi yn ôl Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, sydd wedi deillio o Ddeddf 'Cydraddoldeb’ 2010.
Cylchgrawn ar-lein bob hanner tymor ar gyfer disgyblion CA2 a CA3, yn trafod materion daearyddol sy’n deillio o eitemau newyddion cyfredol.
Amcan gwefan Llais Disgyblion Cymru yw cefnogi pobl broffesiynol a disgyblion wrth ddatblygu llais y disgybl effeithiol. Y mae Llywodraeth Cymru am wybod beth yw eich barn am y wefan, a sut y gellir ei gwella. A wnewch chi gymryd ychydig o funudau i gwblhau'r holiadur hwn erbyn 29 Chwefror 2012? Trwy fynegi eich barn byddwch yn sicrhau bod y wefan yn well byth!
Mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, wedi canmol dwy ysgol yn Abertawe sy’n arwain y ffordd ac yn arloesi o ran defnyddio technoleg ddigidol yn yr ystafell ddosbarth.
Mae'r Cylch Gwaith y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru am 2012-13 yn nodi'r cyngor sy'n cael ei gomisiynu gan yr Adran Addysg a Sgiliau (AdAS) yn 2012-2013.