
Mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, wedi cyhoeddi heddiw y bydd adolygiad llawn yn cael ei gynnal o’r trefniadau asesu ar gyfer plant pan fyddant yn dechrau yn y Cyfnod Sylfaen – sef y cyfnod dysgu cyntaf ar gyfer plant rhwng 3 a 7 oed.
Mae Llywodraeth Cymru yn trefnu cyfres o gynadleddau ‘Codi Safonau Ysgolion’ ledled Cymru. Pwrpas y digwyddiadau hyn fydd i gyflwyno i ymarferwyr y cynnydd sydd wedi digwydd ers 2 Chwefror 2011 pan fu’r Gweinidog yn cyflwyno ei gynlluniau i Godi Safonau Ysgolion. Bydd y cyntaf yn y gyfres o ddigwyddiadau yn cymryd lle ar 8 Mawrth 2012 yng Nghanolfan y Cenhedloedd yng Nghaerdydd. Leighton Andrews, Gweinidog Addysg a Sgiliau fydd y prif siaradwr yn y digwyddiad yma. Bydd tair cynhadledd arall yn cymryd lle yn ystod mis Mawrth: 13 Mawrth, Parc y Scarlets, Llanelli; 19 neu 20 Mawrth (i’w gadarnhau) Merthyr Tudful a’r 28 Mawrth, Venue Cymru, Llandudno. Byddwch cystal ag e-bostio i gofrestru’ch diddordeb mewn mynychu un o’r digwyddiadau.
Fel rhan o gynllun gweithredu’r Gweinidog ar gyfer gwella ysgolion, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno model cenedlaethol ar gyfer CDPau. Mae’r model cenedlaethol wedi cael ei ddarparu i arwain ymarferwyr drwy’r broses o sefydlu a rhedeg cymuned ddysgu broffesiynol. Gall y cyfranogwyr sy’n defnyddio’r model cenedlaethol ymgysylltu a chydweithio â’i gilydd yn effeithiol, gan ganolbwyntio eu hymdrechion ar welliannau penodol yn eu hysgolion. Yn y pen draw, bydd y gwelliannau hyn yn codi safonau yn y tri maes blaenoriaeth ar gyfer ysgolion Cymru: llythrennedd, rhifedd a mynd i'r afael ag anfantais.
‘Mae brecwastau am ddim i blant yn gychwyn maethlon i’r diwrnod ac yn helpu rhieni sy’n gweithio,’ yn ôl y Gweinidog heddiw.
Pwrpas yr arweiniad anstatudol hwn yw helpu penaethiaid a chyrff llywodraethu i egluro’u polisïau ar godi tâl a pheidio â chodi tâl am weithgareddau ysgol ac ymweliadau ysgol.
Mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, wedi cyhoeddi'r cynigion ar gyfer gwneud newidiadau i ddulliau cofrestru'r gweithlu addysg ehangach ar draws Cymru, a hynny er mwyn codi safonau proffesiynol. Ar hyn o bryd, dim ond athrawon cymwysedig sy'n gorfod cofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) a chael eu rheoleiddio ganddo.
• Jelygaid - Llyfr newydd gan Sonia Edwards yn y gyfres Swigod ar gyfer disgyblion 9-11
• Cyfres Arwr – wyth o lyfrau amlddewis ar gyfer darllenwyr anfoddol sy’n rhoi cyfle i’r darllenwr benderfynu ar ei drywydd storïol ei hun
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i atal iechyd gwael a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Fel rhan o hyn rydym yn bwriadu cyflwyno Bil ar gyfer Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd statudol.
Mae'r ddogfen hon yn crynhoi'r ymatebion a gafwyd i ymgynghoriad ynghylch cynigion Llywodraeth Cymru i ddiwygio Rheoliadau Arfarnu Athrawon Ysgol (Cymru) 2002 (fel y'u diwygiwyd) er mwyn atgyfnerthu trefniadau rheoli perfformiad ar gyfer athrawon a phenaethiaid. Crynodeb o’r ymatebion a fwy o wybodaeth ar yr ymgynghoriad.
Mae'r rhifyn newydd o Addysgu Cymru ar gael i'w ddarllen. Ceir nifer o erthyglau yn cynnwys adroddiad ar 'Ddysgu drwy lygaid disgyblion' - Darlith Addysg Cymru 2011 gan Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler.
Mae’r canllaw i lywodraethwyr yn canolbwyntio ar rôl a chyfrifoldebau clerc corff llywodraethu.