
Cyhoeddodd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau yn ei araith ym mis Chwefror y byddem yn cyflwyno prawf darllen cenedlaethol yn rhan o’n Cynllun Llythrennedd Cenedlaethol. Byddem hefyd yn datblygu cynlluniau tebyg ar gyfer rhifedd. Bydd y Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol yn cael eu rhoi ar waith yn statudol; bydd y grwpiau cyntaf o ddysgwyr yn sefyll y profion ym mis Mai 2013.
O ddydd Gwener 16 Rhagfyr mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am eich barn ar y cynnig a ddylai'r orfodaeth sydd ar athrawon i gofrestru gyda chorff proffesiynol gael ei ymestyn er mwyn cynnwys sector ehangach, er enghraifft addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a chynorthwywyr addysgu. Mae’r ddogfen hefyd yn gofyn eich barn a ddylai aelodau eraill o'r proffesiwn addysg sy'n ymwneud â datblygiad plant a phobl ifanc, fel gweithwyr ieuenctid a staff cymorth eraill, hefyd fedru cofrestru. Rydym hefyd yn awyddus i dderbyn eich barn am y swyddogaethau y dylai corff cofrestru o'r fath eu gwneud. Dylech anfon eich sylwadau erbyn 30 Mawrth 2012. Ymgynghoriad
Mae Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar gynigion i gyflwyno rheoliadau wedi’u diweddaru i ddisodli Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004. Mae’r ymgynghoriad yn cynnig newid rhai o’r gofynion ar gyfer cydnabyddiaeth fel athro/athrawes gymwysedig yng Nghymru.
Mae ffurflen gais ar gyfer rhaglen CPCP 2011-2012 ar gael nawr yma. Fe fydd canllawiau ar gyfer ymgeiswyr hefyd ar gael yn fuan yn yr un lle.
Mae'r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi buddsoddiad o bron i £1.4 biliwn yn ein hysgolion dros gyfnod o saith mlynedd, fel rhan o Raglen Cyllid Cyfalaf Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i atal iechyd gwael a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Fel rhan o hyn rydym yn bwriadu cyflwyno Bil ar gyfer Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd statudol.
Cafodd gwybodaeth bandio ar gyfer pob ysgol uwchradd yng Nghymru ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Datganiad i’r wasg, bandio Ysgolion Uwchradd a’r Methodoleg Bandio Ysgolion Uwchradd.
Mae’r adroddiad yma yn manylu ar sut y defnyddiwyd dadansoddiad atchweliad i ganfod i ba raddau y gall gwahaniaethau mewn canlyniadau plant gael eu hesbonio yn nhermau amgylchiadau teuluoedd ac ymarfer rhianta yn y blynyddoedd cyn-ysgol.
Mae’n dda gan NACE Cymru ddweud bod y gwaith o lunio’r Pecyn Hyfforddi ar gyfer Disgyblion Mwy Abl a Dawnus ar y gweill. Mae’r pecyn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a bydd ar gael i bob ysgol. Bydd hefyd yn galluogi Cydgysylltwyr Disgyblion Mwy Abl a Dawnus i gynnig sesiynau datblygu proffesiynol â chydweithwyr yn yr ysgol a bydd yn helpu i ymgorffori darpariaeth ar gyfer disgyblion mwy abl a dawnus mewn ysgolion. Caiff y Pecyn Hyfforddi ar gyfer Disgyblion Mwy Abl a Dawnus ei lansio yng nghynadleddau NACE Cymru ar draws pob cyfnod yn ystod tymor y gwanwyn 2012 – Llandudno: 24 Ebrill, Caerdydd: 26 Ebrill. Am ragor o wybodaeth neu cysylltwch â naceevents@nace.co.uk
Pecyn o adnoddau yn dangos y newidiadau i Gasnewydd yn ystod y Chwyldro Diwydiannol.
Defnyddir fideo a lluniau o’r awyr i archwilio olion caer Rufeinig a bryngaerau Celtaidd yng nghanolbarth Cymru.