
Mae ffigurau a gyhoeddwyd yn dangos fod y mwyafrif helaeth o ddisgyblion mewn ysgolion babanod ac ysgolion iau yng Nghymru yn dal i gael budd o fod mewn dosbarth o 30 disgybl neu lai. Mae maint dosbarthiadau babanod, sef 30 disgybl, wedi bod yn gymwys ers 2001. Ar ôl cymryd i ystyriaeth yr eithriadau a ganiateir yn ôl y gyfraith, mae’r Cyfrifiad o Ddosbarthiadau ym mis Medi eleni wedi datgelu mai dim ond 17 o’r 4,055 o ddosbarthiadau babanod oedd â mwy na 30 disgybl, 5 dosbarth yn fwy na’r llynedd.
Roedd Deddf Diogelu Grwpiau Hawdd eu Niweidio 2006 yn gosod sylfaen ar gyfer Cynllun Fetio a Gwahardd a fyddai’n cryfhau’r trefniadau ar gyfer y rhai sy’n dymuno gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio. Mae arweiniad ar y trefniadau cyfredol ar gael yma
Mewn araith i lywodraethwyr ysgol yng Ngogledd Cymru mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi siarad am y prif heriau sy’n wynebu ysgolion yng Nghymru. Pwysleisiodd hefyd y gwahaniaeth y gall cyrff llywodraethu gwych ei wneud i berfformiad ysgolion.
Mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi dweud wrth gynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) heddiw ei fod yn disgwyl i grwpiau consortia rhanbarthol ganfod gwerth £20 miliwn o adnoddau i’w dyrannu i wasanaethau addysg rheng flaen yng Nghymru.
Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi gofyn i Janet Hayward, Pennaeth Ysgol Gynradd Cadoxton, gadeirio grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried sut orau i ddefnyddio addysg ddigidol i wella profiadau dysgwyr a chydweithredu ymhlith athrawon. Mae Janet yn awyddus i dderbyn sylwadau a safbwyntiau o bob rhan o addysg a hyfforddiant yn cynnwys: 1) Sut ddylai cynnwys digidol Cymraeg a Saesneg hygyrch o’r radd flaenaf gael ei ddatblygu ar gyfer yr ystafell ddosbarth? A 2) Sut ddylai athrawon gael y sgiliau addysgu digidol i ddefnyddio TGCh i weddnewid ysgolion? Os hoffech rannu’ch sylwadau a’ch profiadau, anfonwch eich atebion at y blwch post. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau yw 6 Ionawr 2012.
Yr wythnos ddiwethaf, derbyniodd pob ysgol uwchradd gyflenwad o ‘Codi Safonau Ysgolion: Canllaw i rieni a gofalwyr’. Cafodd y canllawiau hyn eu llunio i helpu rhieni i ddeall y system fandio newydd a’r rhesymau dros ei chyflwyno. Rhaid i ysgolion uwchradd ddosbarthu taflenni i bob disgybl gael mynd â hwy adref cyn yr wythnos sy’n cychwyn 5 Rhagfyr, pan fydd yr wybodaeth bandio yn cael ei chyhoeddi. Nodwch ein bod wedi gallu dwyn ymlaen y dyddiad cyhoeddi o’r wythnos yn dechrau 12 Rhagfyr i’r wythnos sy’n dechrau 5 Rhagfyr. Mae’r canllawiau yn cyfeirio rhieni/gofalwyr at y dudalen http://www.cymru.gov.uk/hysbysysgolionirieni i gael rhagor o wybodaeth. Byddwn yn cysylltu ag ysgolion uwchradd i gael eu hadborth yn y flwyddyn newydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost atom yn SSU@wales.gsi.gov.uk
Cyfres o weithgareddau ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol sy’n dilyn 11 o thema megis anifeiliaid, lliwiau, teganau a dŵr.
Cyfres o weithgareddau rhyngweithiol yn seiliedig ar gân a stori sydd yn cyflwyno geirfa a phatrymau iaith newydd i blant ifanc.
Mae’r catalog hwn yn cynnwys adnoddau addysgol Cymraeg a dwyieithog sydd wedi’u cyhoeddi’n ddiweddar ynghyd â gwybodaeth am adnoddau ar-lein.
Dyma'r trydydd fwletin ynghylch y system genedlaethol ar gyfer bandio ysgolion. Cafodd gwybodaeth dros dro am fandio ysgolion uwchradd ei hafon at ysgolion ac awdurdodau lleol ddydd Iau 15 Medi. Darllenwch fwletin Tachwedd a’r ddogfen Cwestiynau ac Atebion diweddaraf
Mae’r Ffeiliau Ffeithiau diweddaraf a gynhyrchwyd gan Lywodraethwyr Cymru yn canolbwyntio ar Cwestiynau ac Atebion ar Ffederasiwn.