
Ar 1 Tachwedd 2011 gwnaeth y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau Ddatganiad llafar yn y Siambr ar Archwiliad yr Uned Safonau Ysgolion.
Bydd ymgyrch hysbysebu yn ymddangos ledled Cymru i gynghori plant a phobl ifanc sy'n cael eu bwlio i siarad â rhywun neu gysylltu â llinell gymorth eiriolaeth meic am gymorth. Y ffocws ar gyfer wythnos Gwrth-fwlio eleni yw ar seiberfwlio a bwlio rhywiol. Mae'r canllawiau diwygiedig Gwrth-fwlio ar gyfer ymarferwyr a rhieni hefyd ar gael. Posteri Gwrth-fwlio.
Ar 08 Tachwedd gwnaeth y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau Ddatganiad llafar yn y Siambr.
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) wedi ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru ac ers Mai 2011 Cymru yw’r unig wlad o fewn y DU i ymgorffori’r Confensiwn o fewn ei chyfraith ddomestig. Mae’n diogelu hawliau dynol pob plentyn o dan 18 oed. Beth am gynnal gwasanaeth arbennig yn eich ysgol i ddysgu am y Confensiwn i eraill? Mae digon o adnoddau ar gael ar wefan Llais Disgyblion Cymru a Gwneud Pethau’n Iawn.
Pwrpas yr arweiniad anstatudol hwn yw helpu penaethiaid a chyrff llywodraethu i egluro’u polisïau ar godi tâl a pheidio â chodi tâl am weithgareddau ysgol ac ymweliadau ysgol.
Capasiti ysgol yw nifer y disgyblion y gall gynnig eu haddysgu. Mae’r canllawiau hyn yn disgrifio’r dull o asesu capasiti ysgolion cynradd ac uwchradd a phennu’r niferoedd derbyn priodol yn seiliedig ar y capasiti.
Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi gofyn i Janet Hayward, Pennaeth Ysgol Gynradd Cadoxton, gadeirio grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried sut orau i ddefnyddio addysg ddigidol i wella profiadau dysgwyr a chydweithredu ymhlith athrawon. Mae Janet yn awyddus i dderbyn sylwadau a safbwyntiau o bob rhan o addysg a hyfforddiant yn cynnwys: 1) Sut ddylai cynnwys digidol Cymraeg a Saesneg hygyrch o’r radd flaenaf gael ei ddatblygu ar gyfer yr ystafell ddosbarth? A 2) Sut ddylai athrawon gael y sgiliau addysgu digidol i ddefnyddio TGCh i weddnewid ysgolion? Os hoffech rannu’ch sylwadau a’ch profiadau, anfonwch eich atebion at y blwch post. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau yw 6 Ionawr 2012.
Mae AdAS wedi ymrwymo i ragori wrth gyfathrebu ac ymgysylltu â chi. Yn sgil derbyn canlyniadau Arolwg Rhanddeiliaid 2010, rydym wedi paratoi ffurflen adborth gryno i ymchwilio ymhellach i’r hyn yr ydych chi’n ystyried yw cryfderau a gwendidau’r Adran. Byddem yn gwerthfawrogi, felly, pe byddech yn gallu neilltuo ychydig funudau i lenwi’r ffurflen gyfrinachol hon.
Mae'r adnodd hwn yn ymchwilio i agweddau o wahanol gerbydau a sut mae'n bwysig dylunio'r cerbyd fel y bydd yn diwallu anghenion y person a fydd yn ei ddefnyddio.
Cyfres o storïau rhyngweithiol sy’n caniatáu i’r darllenydd reoli hynt a helynt y stori. Dylid annog y darllenwyr i ddarllen y stori mwy nag unwaith gan ddewis llwybr newydd bob tro a thrafod sut mae’r plot yn newid.
Gellir lawrlwytho catalog o adnoddau sy’n cynnwys gwybodaeth am lyfrau, deunyddiau rhyngweithiol, DVDs, CD-ROMs ac adnoddau sydd i gael am ddim i’w lawrlwytho.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am sylwadau ar gynigion i gyflwyno Cynllun Hyfforddi Athrawon ar sail Cyflogaeth diwygiedig.
Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn ceisio barn am gychwyn y ddarpariaeth sydd yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Mae adroddiad ar werthusiad annibynnol a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) yn barnu bod Cwnsela mewn Ysgolion yn rhan annatod o ddarpariaeth ysgolion yng Nghymru. Datganiad i’r wasg a’r Adroddiad Terfynol.
Gallwch hawlio eich tocynnau rhad ac am ddim i’r Gemau drwy fenter Ticketshare Llundain 2012 neu gallwch sicrhau bod eich disgyblion yn cael cyfle i ymuno yn hwyl y Gemau drwy gyflwyno ffurflen gais heddiw ar ran eich ysgol i fod yn rhan o’r rhwydwaith Bydd Barod. Mwy o wybodaeth a chyflwynwch eich cais.
Yn ogystal â chynnig tocynnau rhad ac am ddim, rydym yn cynnig y cyfle i ysgolion sy’n perthyn i’r rhwydwaith Bydd Barod i enwebu disgybl 12 oed i redeg gyda’r Fflam Olympaidd. Ymunwch â’r rhwydwaith Bydd Barod cyn 16 Rhagfyr 2011 i achub ar y cyfle i enwebu un o’ch disgyblion. Ymunwch nawr.