
Mae’r deunyddiau dwyieithog hyn wedi’u cynllunio i gefnogi gwaith addysgu ac asesu o safon ym maes Cymraeg ail iaith. Yn benodol, eu nod yw cefnogi athrawon Blwyddyn 6 y bydd angen iddyn nhw asesu cyrhaeddiad dysgwyr mewn Cymraeg ail iaith ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2. Bydd yr adnoddau hyn yn cael eu dosbarthu i ysgolion mewn ffurf copi caled/CD ar gychwyn wythnos 14 Tachwedd 2011
Mae rhifyn diweddaraf Materion Arlwyo'r Ysgolion ar gael yn awr. Mae Materion Arlwyo’r Ysgolion yn cynnwys y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am Blas am Oes, sef strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella’r bwyd a’r diod sy’n cael eu gweini yn ysgolion Cymru. Mae’r cylchlythyr hwn yn darparu cyngor a chanllawiau, a fydd yn helpu ysgolion ac awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer y safonau statudol sy’n cael eu cyflwyno ar gyfer bwyd a diod mewn ysgolion.
Mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi Rhaglen Addysg Ryngwladol newydd a fydd yn helpu pobl ifanc Cymru i ddysgu gwersi o bob ban byd. Nod y Rhaglen Addysg Ryngwladol yw sicrhau bod gan bobl ifanc Cymru yr wybodaeth ynghyd â’r sgiliau angenrheidiol i gyfrannu’n weithgar at gymdeithas fyd-eang. Datganiad i’r wasg a mwy o wybodaeth
Mae gwaith y Grŵp wedi canolbwyntio ar y gwahaniaethau mewn perfformiad addysgol rhwng bechgyn a merched yn ogystal â’r problemau economaidd-gymdeithasol ehangach sydd yn effeithio ar eu perfformiad. Mwy a’r datgainiad ysgrifenedig gan y Gweinidog
Mae AdAS wedi ymrwymo i ragori wrth gyfathrebu ac ymgysylltu â chi. Yn sgil derbyn canlyniadau Arolwg Rhanddeiliaid 2010, rydym wedi paratoi ffurflen adborth gryno i ymchwilio ymhellach i’r hyn yr ydych chi’n ystyried yw cryfderau a gwendidau’r Adran. Byddem yn gwerthfawrogi, felly, pe byddech yn gallu neilltuo ychydig funudau i lenwi’r ffurflen gyfrinachol hon.
Mi fydd y gynhadledd, ar gyfer ysgolion sy’n dymuno creu cysylltiadau addysg gyda phartneriaid o Rwanda, yn cymryd lle ar Ddydd Iau, 10fed Tachwedd 201 yn Abertawe.
Fe esgorodd y syniad o greu’r adnodd yma yn dilyn taith arth fach Ysgol Chwilog, sef Glyndwr, o gwmpas y byd gyda ei gydymaith Karen Peacock.
Bydd yr adnodd yn rhoi cyfle i’r disgybl sgwrsio a trafod sut mae tai a chartrefi wedi newid dros y canrifoedd. Mae’r disgyblion yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a rhoi rhesymau pam mae’n nhw’n dewis ‘y dyn od’.