
Mae’r gyfres newydd o ganllawiau gwrth-fwlio yn datblygu ar y canllawiau a gafodd eu cyhoeddi yn 2003, ac yn darparu cyngor manwl i ysgolion ar ymateb i fwlio a’i atal. Mae’r canllawiau yn cynnwys enghreifftiau o arfer da, astudiaethau achos a sefyllfaoedd.
Cafodd y canllawiau newydd hyn eu llunio i gefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau llythrennedd ac iaith drwy greu cysylltiadau ar draws Cymraeg, Cymraeg ail iaith, Saesneg ac ieithoedd tramor modern.
Mae’r dudalen hon yn gosod y gofynion statudol ar gyfer asesiad athrawon yn y flwyddyn ysgol 2011/12. Mae’n rhoi gwybodaeth bwysig ynghylch trefniadau asesu statudol yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3. Mae’r cyhoeddiad hwn yn disodli fersiwn 2010/11 o’r llyfryn trefniadau asesu statudol.
Mae’r Cod Teithio wedi bod ar waith ers mis Ionawr 2010. Mae’n rhan annatod o bolisi ymddygiad cyffredinol pob ysgol, a rhaid i bob dysgwr gydymffurfio â’r Cod. Mae cyfrifoldeb ar athrawon, penaethiaid, awdurdodau lleol a rhieni i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r Cod, ac i ledaenu’r neges bod dilyn y Cod yn gallu arbed bywydau. Rydym wedi datblygu rhai adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol i chi. Maen nhw ar gael ar wefan y Cod Teithio a gallwch eu defnyddio mewn gwasanaethau ysgol ac wrth gynllunio gwersi ABCh sy’n addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 a 4. Mae gan y wefan hefyd rai gweithgareddau sy’n benodol ar gyfer disgyblion, fel Cwis y Cod Teithio ac Arolwg Barn y Cod Teithio sydd i’w cael yma.
Mae’r Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi Papur Gwyn yn gofyn am sylwadau ynghylch y cynigion ar gyfer Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru).
Mae AdAS wedi ymrwymo i ragori wrth gyfathrebu ac ymgysylltu â chi. Yn sgil derbyn canlyniadau Arolwg Rhanddeiliaid 2010, rydym wedi paratoi ffurflen adborth gryno i ymchwilio ymhellach i’r hyn yr ydych chi’n ystyried yw cryfderau a gwendidau’r Adran. Rydym am wybod yn benodol a ydy’r canfyddiadau yn amrywio ar draws y sectorau, er mwyn i ni allu nodi unrhyw welliannau sydd angen i ni eu gwneud, a mynd i’r afael â’r gwelliannau hynny yn effeithiol. Byddem yn gwerthfawrogi, felly, pe byddech yn gallu neilltuo ychydig funudau i lenwi’r ffurflen gyfrinachol hon.
Daeth y Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 i rym ym mis Medi 2011. Maent yn cynnwys rhai categorïau newydd o wybodaeth i’w chyhoeddi yn adroddiad blynyddol y llywodraethwyr i rieni. Ceir mwy o wybodaeth ar dudalen 19 o’r rheoliadau ynghylch adrodd am wybodaeth am yr ysgol ac am ddisgyblion: canllawiau cryno
Ydych chi’n athro cynradd neu uwchradd, ddarlithiwr Addysg Bellach neu hyfforddwr yn y gweithle sydd eisiau gwella eich sgiliau llafar ac ysgrifenedig yn yr iaith Gymraeg? Beth am fynychu cwrs dysgu o bell gyda chyfnodau preswyl wedi ei achredu gan Brifysgol Bangor ar lefel 6? Mae’r cwrs am ddim a bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu costau cyflenwi, llety a theithio. Bydd y cwrs yn rhedeg rhwng 9 Ionawr a’r 30 Fawrth 2012. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw’r 4 Tachwedd. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Sabothol ar 01443 663770 neu e-bost: cynllunsabothol@cymru.gsi.gov.uk
Adnodd sy’n annog y disgyblion i feddwl am bwysigrwydd bwyd. Bydd angen iddynt ganfod gwybodaeth am grwpiau o fwydydd cyn dewis o 6 rysáit i’w dilyn a’u gwerthuso.
Mae Pacio yn gyfres o ffeiliau Powerpoint sydd yn creu uned o waith i gefnogi dylunio pecynnau. Mae’r adnodd yn datblygu sgiliau sy’n gymorth i ddisgyblion ddeall y broses a sut i ddylunio cynnyrch sydd yn addas i’r defnyddiwr.
Secondai yn Uned Addysg Ariannol Cymru - Arbenigwr yn yr Oedran Cynradd Pennodd Uned Addysg Ariannol Cymru (UAAC) raglen ddwy flynedd o waith ar gyfer 2009-2011. Yn dilyn gwerthusiad annibynnol o gynnydd yr Uned, mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi cytuno y bydd UAAC yn parhau i weithredu, i helpu i roi addysg ariannol ar sail gadarn mewn ysgolion. Cewch wybodaeth am secondiad o 19 mis fel arbenigwr cynradd o fewn UAAC. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 28 Hydref 2011.
Gweler yn amgaeedig gyflwyniad PowerPoint gyda nodiadau areithio. Gall ysgolion, awdurdodau lleol a grwpiau rhanddeiliaid ddefnyddio’r rhain i godi ymwybyddiaeth am y broses bandio.
Mae’r prosiect FILMCLUB, sy’n derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, yn helpu ysgolion sefydlu clybiau ffilm. Mae’r rhifyn arbennig hwn o’r cylchgrawn FILMCLUB yn canolbwyntio ar Gymru ac yn cynnwys erthyglau ar ffilmiau o Gymru, neu ffilmiau sydd â chyswllt Cymreig ynghyd â gwybodaeth am actorion o Gymru.