
‘Mae Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yn adnodd gwerthfawr y gellid ei ddefnyddio i alluogi pobl i ddysgu’n effeithiol. Mae athrawon ac ysgolion eisoes wedi croesawu technoleg ac wedi buddsoddi mewn amryw o ffyrdd o’i defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Ond, ychydig o enghreifftiau o ragori sydd yna, ac mae’n bwysig i athrawon ac ysgolion Cymru ddysgu o’r enghreifftiau gorau hynny...Rwy’n disgwyl i’r grŵp hwn adrodd ar ei ganfyddiadau i mi erbyn 31 Ionawr 2012, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed ei argymhellion.’
Bwriad y Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) at ei gilydd yw ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu hybu bwyta ac yfed yn iach ymhlith disgyblion mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru a gwneud darpariaeth i reoleiddio bwyd a diod a ddarperir yn yr ysgolion hynny. Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi cytuno ar amserlen i gychwyn y darpariaethau yn y Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru).
Mae’r Adran dros Addysg a Sgiliau wedi diwygio sawl set o reoliadau sy'n ymwneud ag adrodd i rieni, y System Drosglwyddo Gyffredin, Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr, prosbectysau ysgolion a gosod targedau i ysgolion. Mae dogfen canllawiau cryno ar gyfer y rheoliadau newydd ar gael ar y wefan.
Dyma'r ail fwletin ynghylch y system genedlaethol ar gyfer bandio ysgolion. Cafodd gwybodaeth dros dro am fandio ysgolion uwchradd ei hafon at ysgolion ac awdurdodau lleol ddydd Iau 15 Medi. Darllenwch fwletin yr Hydref a’r ddogfen Cwestiynau ac Atebion diweddaraf.
Mae grantiau CILT Cymru (Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ieithoedd) hyd at £1000 ar gael yn awr i ysgolion i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil weithredu i ddatblygu llythrennedd ar draws ieithoedd. Bydd 10 ysgol arloesol yn derbyn cyllid i ddatblygu rhagor o arfer effeithiol, adnoddau a strategaethau yn y maes hwn.
Mae’r pecyn yn cynnwys llyfr storiau i'w ddefnyddio yn ystod amswer cylch, cymeriad 'beanie ' a phwped, a CD yn cynnwys yr holl adnoddau PLAP a ddatblygwyd hyd yn hyn.
Y mae'r canllawiau yn amlinellu sut y gall ysgol ddatblygu a chefnogi cyfranogiad disgyblion effeithiol a chyfannol, gydag adrannau arbennig ar sut i gynnwys pobl ifanc wrth werthuso dysgu ac addysgu, ac wrth benodi staff.
Mae llu o ddeunyddiau - llyfrynau, gemau, cynlluniau gwersi, a clipiau fideo – ar gael nawr i ddangos sut y gall newid a gwella bywydau plant a phobl ifanc.
Creuwyd ffeil ffeithiau gan Llywodraethwyr Cymru i ddarparu gwybodaeth a chanllaw i gyrff llywodraethu yng Nghymru ynglyn â sut i hyrwyddo a chefnogi cyfranogiad effeithiol disgyblion, yn gysylltiedig gyda’r Fframwaith Effeithlonrwydd Ysgolion, hunan werthusiad ysgol a Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn.
Cyrchfannau Myfyrwyr a Gwblhaodd Cyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yng Nghymru, 2009/10
Mae’r adroddiad ymchwil hwn gan Miller Research yn pennu gwahanol enghreifftiau o arferion clercio cyrff llywodraethol yng Nghymru, ac yn adolygu perfformiad clercod wrth iddynt wneud eu gwaith.
Datblygwyd y Polisi Cwynion Enghreifftiol a Chanllawiau ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gan Grŵp Cwynion Cymru o dan gadeiryddiaeth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Dylid edrych ar y Polisi fel canllawiau anstatudol sydd wedi’i ddatblygu ar gyfer cydweithwyr sy’n ymdrin â chwynion sy’n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus. Y canllawiau cyfatebol perthnasol ar gyfer ysgolion yw Cylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru 03/2004 Gweithdrefnau Cwyno Cyrff Llywodraethu Ysgolion. Mae’r cylchlythyr hwnnw yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd er mwyn ystyried y Polisi Enghreifftiol a chaiff y fersiwn ddiweddaraf ei chyhoeddi yn hwyrach eleni.