
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf canfu’r arolygiaeth fod mwyafrif yr ysgolion cynradd yng Nghymru yn darparu amgylchedd amrywiol, cynhyrchiol ac ysgogol i blant ffynnu a datblygu eu medrau mewn darllen ac ysgrifennu. Datganiad i'r wasg, yr adroddiad ac Ymateb Llywodraeth Cymru
Rydym wedi llunio adroddiad blynyddol i ysgolion sy’n cynnwys dolenni ar y we i ddogfennau sydd wedi’u llunio ar gyfer ysgolion a’u cyrff llywodraethu yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf (2010-11). Nod yr adroddiad yw dwyn ynghyd yr holl ganllawiau yn un ddogfen hawdd ei defnyddio.
Mae’r Adran dros Addysg a Sgiliau wedi diwygio sawl set o reoliadau sy'n ymwneud ag adrodd i rieni, y System Drosglwyddo Gyffredin, Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr, Prosbectysau ysgolion a Gosod targedau i ysgolion. Daeth y rheoliadau newydd a diwygiedig i rym ar 1 Medi 2011.
Mae Estyn yn cynnig cyfle cyffrous i ddod yn arolygydd cymheiriaid i uwch athrawon profiadol a rheolwyr mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 2:00pm ar 6 Hydref.
Pedair stori ryngweithiol a chaneuon i’w canu yn seiliedig ar y tymhorau.
Adnodd sy’n defnyddio sefyllfaoedd penodol er mwyn caniatáu i’r disgyblion drafod diogelwch wrth ddefnyddio ffonau symudol.
Yr wythnos ddiwethaf anfonodd Llywodraeth Cymru gwybodaeth fandio dros dro ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol trwy gyfrwng ‘DEWi’ – y wefan trosglwyddo ddiogel. Ceir mwy o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae’r diweddariad isod yn darparu’r newyddion addysgol diweddaraf.