
Cafodd carreg filltir bwysig ei chyrraedd yr wythnos hon wrth i blant ledled Cymru ddychwelyd i’r ysgol yn dilyn y gwyliau haf. O’r tymor hwn ymlaen, bydd pob plentyn rhwng tair a saith mlwydd oed yn gallu elwa ar y Cyfnod Sylfaen, sef cwricwlwm arloesol Llywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar.
Mae’r Gweinidog dros Addysg a Sgiliau wedi penderfynu diwygio’r safonau proffesiynol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch, athrawon a phenaethiaid a bydd y safonau diwygiedig hyn yn dod i rym o 1 Medi 2011. Ewch i’r safonau Proffesiynol Diwygiedig ar gyfer Ymarferwyr Addysg. Yn ogystal, gallwch ddarllen crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad.
A hithau bellach yn ddechrau'r tymor, gallwn roi rhagor o fanylion i chi am yr amserlen ar gyfer mireinio'r model bandio terfynol ac ar gyfer cytuno ar y model hwnnw; ar gyfer cyhoeddi'r wybodaeth fandio dros dro a'r wybodaeth fandio derfynol, a darparu'r deunyddiau cymorth i'ch helpu i esbonio bandio i rieni ac i'r cyhoedd.
Mae’r ddogfen hon yn darparu arweiniad i gyrff llywodraethol a phenaethiaid ar faterion yn ymwneud â gweithredu neu newid polisi ymddangosiad a gwisg ysgol.
Ewch i wefan Estyn lle gallwch ddarllen am y modd y mae darparwyr o bob cwr o Gymru wedi goresgyn heriau yn effeithiol, fel cefnogi disgyblion mwy abl a dawnus, cyflwyno cwricwlwm yn seiliedig ar fedrau a gwella llythrennedd bechgyn. Mae’r adran newydd ar arfer orau ar wefan Estyn yn rhan o ymrwymiad Estyn i hyrwyddo gwelliant wrth gyflwyno addysg a hyfforddiant ledled Cymru.
Mae’r gwaith o weithredu Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru yn mynd yn ei flaen yn gyson yn ôl yr adroddiad blynyddol cyntaf a gyhoeddwyd. Datganiad i’r wasg a’r Adroddiad blynyddol 2010-11.
Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi penderfynu caniatáu i ysgolion barhau i gymryd hyd at ddau ddiwrnod HMS ychwanegol cyn belled ag y cânt eu trefnu yn ystod tymor haf blwyddyn academaidd 2011/12 a’u bod yn canolbwyntio ar lythrennedd a rhifedd yn unig. Er hynny, fel y digwyddodd y llynedd, bydd ysgolion yn colli’r defnydd o’r diwrnodau HMS ychwanegol hyn ar sail pro-rata os bydd unrhyw amser addysgu yn cael ei golli oherwydd tywydd garw yn ystod y ddau dymor cyntaf.
Cyfres o storïau llun electronig i’w defnyddio gyda phlant ifanc. Ceir hefyd fframiau stori ar gyfer yr athrawon.
Dis sy’n caniatáu i’r disgyblion ddarllen, dadansoddi ac ysgrifennu storïau mewn chwe ffurf (genre) gwahanol.
Asesiadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol o’r Pynciau Craidd, 2011
Asesiadau Athrawon y Cwricwlwm Cenedlaethol o'r Pynciau Di-Graidd, 2011
Mae’r cylch ceisiadau ar gyfer cyllid newydd i helpu ysgolion sydd â phlant y Lluoedd Arfog i liniaru’r effaith y mae symud ac adleoli yn ei chael, fel rhan o’r Lluoedd Arfog, ar agor yn awr. I gael rhagor o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch â Laura Peel neu Claudia Guy
Mae’r Rhaglen Lleoli Athrawon yn rhoi’r cyfle i athrawon cymwysedig o Gymru weithio mewn ysgol yn Lesotho am 6 neu 12 mis. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar rannu sgiliau proffesiynol a gwella addysg yn Lesotho tra hefyd yn datblygu sgiliau’r athrawon o Gymru a rhoi profiad rhyngwladol unigryw iddynt sy’n cyfoethogi eu gwaith wedi iddynt ddychwelyd i Gymru. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 15 Medi 2011.