
‘Ar ddiwedd blwyddyn academaidd brysur arall rwy'n siŵr eich bod yn edrych yn ôl ar lwyddiannau a heriau'r flwyddyn...’
Yn dilyn araith y Gweinidog ym mis Chwefror, sefydlwyd Uned Safonau Ysgolion newydd o fewn yr Adran Addysg a Sgiliau. Un o dasgau cyntaf yr Uned oedd datblygu system genedlaethol o fandio ysgolion. Mwy a datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog.
Roedd cyfreithiau newydd ar gyfer mynd i’r afael â thangyflawni gan ysgolion, gwneud i gynghorau weithio gyda’i gilydd a system newydd ar gyfer rhoi organau ymhlith y Biliau newydd a gynigiwyd heddiw gan Lywodraeth Cymru.
Yn y mwyafrif o ysgolion cynradd, nid yw disgyblion sy’n fwy galluog a dawnus yn cael digon o her, yn ôl Estyn,. Nid yw’r ysgolion hyn yn gwneud digon i nodi, cefnogi nac olrhain cynnydd disgyblion mwy galluog a dawnus.
Mae prosiect Chwarae i Ddysgu Chwaraeon Cymru wedi cael ei gynllunio er mwyn gwella datblygiad corfforol a sgiliau symud creadigol plant 3-7 oed. Er bod y ffocws ar symud, mae Chwarae i Ddysgu wedi cael ei gynllunio hefyd i helpu plant gyda’u llythrennedd a’u rhifedd. Cofiwch annog rhieni a gofalwyr i fynd I www.playtolearn.org.uk Mae’r safle’n orlawn o gemau, straeon ac animeiddio hwyliog, a fydd o gymorth i rieni a gofalwyr helpu gyda datblygiad eu plentyn.
Mae’r adroddiad yma yn cyflwyno darganfyddiadau cam un o’r gwerthusiad ac yn canolbwyntio ar y darganfyddiadau o ddadansoddiad eilaidd o ddata cleient a chanlyniad ynghyd a chanlyniadau o arolygon o gynghorwyr ysgol, athrawon pennaeth/cyswllt a arweinion awdurdodau lleol/rheolwyr gwasanaeth.