
Bydd y trefniadau asesu ac adrodd newydd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen yn dod i rym o ddechrau blwyddyn ysgol 2011/12 ymlaen. Mae'r rhain yn cynnwys asesiadau dechreuol a gynhelir gan ddefnyddio'r Proffil Asesu Datblygiad Plentyn - yr anfonwyd copïau ohono at ysgolion yn ystod mis Mai - a'r trefniadau ar gyfer cynnal asesiadau ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen a gaiff eu cyflwyno yn 2011/12. Mae'r manylion i'w gweld yn y ddogfen gyfarwyddyd ar drefniadau asesu ac adrodd statudol yn y Cyfnod Sylfaen, sydd ar gael bellach ar wefan Llywodraeth Cymru. Caiff copïau caled eu hanfon at bob ysgol ddechrau mis Medi. Dylech nodi bod y fersiwn hon o'r trefniadau asesu ac adrodd statudol yn disodli'r fersiwn ddrafft a anfonwyd atoch gyda'r deunyddiau am y Proffil. Ym mis Medi, bydd ysgolion hefyd yn cael un cyflenwad o Ffurflen Cofnodi Proffil Asesu Datblygiad Plentyn; yr amgaewyd enghraifft ohoni yn y pecynnau am y Proffil a gafodd eu dosbarthu ym mis Mai.
Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, y bydd Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol statudol newydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer holl ddysgwyr 5-14 oed mewn ysgolion ledled Cymru.
Mewn araith bwysig i’r Sefydliad Materion Cymreig yng Nghaerdydd heddiw,bydd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, yn sôn am yr hyn sydd eisoes wedi’i wneud i gyflawni ei gynllun 20 pwynt i godi safonau a gwella perfformiad ledled Cymru.
Ceir yn y llythyr wybodaeth am y system sydd newydd ei datblygu sef Adolygu a Datblygu Ymarfer ar gyfer gweithlu'r ysgol gyfan. Yn ogystal â'r llythyr ceir hefyd gyflwyniad PowerPoint sy'n nodi'r camau unigol ac yn esbonio'r system Adolygu a Datblygu Ymarfer yn fanylach.
Mae Allan Fan ’Na yn brosiect sy’n dathlu’r anghyffredin a’r amlwg ac yn gwneud y gorau posib o un o’r adnoddau mwyaf gwerthfawr: carreg eich drws chi eich hun.
Adnodd sy'n cyflwyno sut i drefnu, chwilio, graffio a chreu cronfa ddata.
Bydd llyfrgelloedd ar hyd a lled Cymru yn croesawu plant i Sialens Ddarllen yr Haf™ sydd ar thema’r syrcas eleni, er mwyn sicrhau bod y plant yn dal i ddarllen yn awchus drwy gydol gwyliau’r ysgol.
Yn y ddogfen hon, mae Llywodraeth Cymru a darparwyr ysgolion o natur grefyddol (a elwir yn ysgolion ffydd yn aml) yn nodi ein cyd-ddealltwriaeth o’r cyfraniad cadarnhaol iawn y mae ysgolion o’r fath yn ei wneud i’r system addysg a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru.
Mae'r adroddiad hwn yn ystyried i ba raddau y mae ysgolion yn ymateb i'r dyletswyddau a gyflwynwyd gan Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 2006. Datganiad i’r wasg; adroddiad Estyn ac ymateb Llywodraeth Cymru