
Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi ffigurau ar berfformiad ysgolion uwchradd unigol yng Nghymru. Roedd y cyhoeddiad hwn wedi’i seilio ar ddata roeddent wedi gofyn amdano ac wedi ei dderbyn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Mae’r ddogfen hon yn gosod allan y chwech Maes Datblygiadol y dylai plant cael eu hasesu yn erbyn ar ddechrau’r Cyfnod Sylfaen.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn comisiynu ystod eang o adnoddau Cymraeg a dwyieithog i gefnogi addysgu’r Gymraeg fel pwnc, addysgu pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg, ac addysgu agweddau ar y cwricwlwm ysgol sy’n benodol i Gymru. Byddwn yn croesawi unrhyw sylwadau a syniadau am y fath o adnoddau yr hoffech weld yn cael eu comisiynu. A wnewch chi anfon eich sylwadau a syniadau at Heulwen Goodwin erbyn y 10fed o Fehefin os gwelwch yn dda.
Mae’r detholiad blynyddol o ystadegau o gofrestr y Cyngor Addysgu yn cynnwys nifer o ddangosyddion, gan gynnwys oed, rhyw, ethnigrwydd, cymwysterau a statws anabledd athrawon a phenaethiaid. Eleni, am y tro cyntaf, mae’n rhoi dadansoddiad ystadegol o ddirprwy benaethiaid a phenaethiaid cynorthwyol yn ysgolion Cymru. Datganiad i’r wasg.
Mae canran y disgyblion a lwyddodd i gyrraedd y lefel ddisgwyliedig yn 2010 yn uwch yn yr holl bynciau ac ym mhob cyfnod allweddol o’i gymharu â 2009, ac eithrio Gwyddoniaeth yng nghyfnod allweddol 2, lle mae'r ganran yr un fath ag yn 2009.
Bwriad y prosiect yw cynorthwyo athrawon cynradd i addysgu Iaith Tramor Modern (ITM) eu hunain neu i gefnogi athro/athrawes ITM sy’n ymweld â’u hystafell ddosbarth. Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddianus ers iddo cychwyn yn 2009. Y dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yw’r 17 Mehefin 2011.
Mae Undeb Gwyddbwyll Cymru (UGC) yn awyddus i bob ysgol yng Nghymru sefydlu clybiau gwyddbwyll, ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei annog i fynd ymlaen â’r nod hon. Os hoffech ddechrau clwb gwyddbwyll yn eich ysgol, edrychwch ar wefan UGC am syniadau a help ar sut i’w ddechrau.
Nod y deunyddiau hyfforddi hyn yw helpu uwch-arweinwyr, llywodraethwyr a staff mewn ysgolion yng Nghymru i gael yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i helpu i ddatblygu cyfranogiad effeithiol ymhlith disgyblion.
Darluniadau i gefnogi addysgu effeithiol gyda’r llyfr Aled Afal gan ddefnyddio egwyddorion y Cyfnod Sylfaen. Mae’r darluniadau’n darparu cyfleoedd parhaus i ddatblygu sgiliau personol a chymdeithasol, sgiliau siarad a gwrando, sgiliau meddwl a chreadigedd. Darperir arweiniad manwl i athrawon.
Adnodd ar gyfer datblygu gwybodaeth y plant wrth astudio elyrch, adnabod elyrch, wrth astudio ei le yn yr amgylchedd , cylch bywyd alarch a’r ffactorau sydd effeithio’r anifail o fewn ei amgylchedd.
Mae'r Clip DVD yn sôn am gyfuno'r elfennau sy'n helpu ysgol i fod yn gynaladwy gan gynnwys ymgynghori â'r disgyblion a'r staff wrth ei dylunio a'i chodi ac wrth gyflwyno'r cwrícwlwm.
Wrth ganolbwyntio ar gymorth i staff ac ar eu datblygiad personol yn ystod diwrnodau hyfforddiant mewn swydd ac mewn digwyddiadau a gynhelir ar gyfer staff, mae'r seminar 'Gwneud y Defnydd Gorau o'ch Arian' ar gael yn rhad ac am ddim i chi bellach. Drwy wahodd y Gwasanaeth Cyngor am Arian i'ch gweithle, byddwch yn rhoi help llaw i'ch gweithwyr reoli eu harian yn well. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwasanaeth sydd wedi'i gynnig i nifer o gyflogwyr yng Nghymru. Cysylltwch â Tiana yn swyddfa Cymru am ragor o wybodaeth.