
Ddoe (Tachwedd 17) cyhoeddodd Y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb, Jane Hutt Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer 2011-2012. Mae’r Gyllideb Ddrafft yn pwysleisio ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i warchod iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion a sgiliau ac mae’n darparu cymorth hollbwysig i’r bobl hynny yn ein cymdeithas sydd fwyaf agored i niwed; mae’n cynorthwyo plant a phobl hŷn ac mae’n rhoi hwb i’n heconomi fregus.
“Rydym wedi bod yn strategol a phragmataidd yn y ffordd yr ydym yn neilltuo ein harian. Trwy amddiffyn cyllidebau ysgolion, sgiliau a’r blynyddoedd cynnar ac wrth anrhydeddu ein hymrwymiadau presennol, byddwn yn parhau i sicrhau fod Cymru’n llwyddo ym maes addysg.”
Mae’r Gyllideb a ddyrannwyd i Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn adlewyrchu’r ymrwymiad cadarnhaol i amddiffyn cyllid ysgolion a sgiliau, a’r gwasanaethau rheng flaen hynny sy’n effeithio’n uniongyrchol ar blant.
Nododd y Gweinidog dros Addysg, Leighton Andrews ddechrau Wythnos Gwrth-fwlio drwy bwysleisio pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o'r materion yn ymwneud â bwlio a sut y gallwn ni helpu'r rheini sy'n dioddef.
Pwrpas yr arweiniad anstatudol hwn yw helpu penaethiaid a chyrff llywodraethu i egluro’u polisïau ar godi tâl a pheidio â chodi tâl am weithgareddau ysgol ac ymweliadau ysgol.
Sêr rygbi Cymru yn neilltuo amser i wneud ‘cais’ ar rieni i ddarllen gyda’u plant.
Gall plant ifanc saith oed ac iau fanteisio bellach ar meic, gwasanaeth eiriolaeth a llinell gymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Lansiwyd y gwasanaeth i blant yng ngwarchodfa’r RSPB yng Nghyffordd Llandudno gyda chymorth y cymeriad teledu Hanna o sioe deledu Llinell Gymorth Hanna.
Yr wythnos hon, lansiwyd gwefan Ysgolion yr 21ain Ganrif, cydweithrediad unigryw rhwng Llywodraeth y Cynulliad a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, er mwyn rhoi gwybodaeth am Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif i awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill. Mae’r wefan yn cynnwys canllawiau, arferion gorau ac astudiaethau achos a fydd o ddefnydd a diddordeb i chi.
Cyfres o adnoddau thematig, lliwgar a rhyngweithiol sy’n seiliedig ar gyfresi teledu Pentre Bach a Sali Mali gan S4C.
Adnodd newydd a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cenedlaethol Cymru sy’n datblygu ymwybyddiaeth plant yn y Cyfnod Sylfaen o’u hamgylchedd ac yn hyrwyddo mwynhad o ofalu am yr hyn sydd o'u cwmpas.
Cylchgrawn ar-lein bob hanner tymor ar gyfer disgyblion CA2 a CA3, yn trafod materion daearyddol sy’n deillio o eitemau newyddion cyfredol.
Adnodd newydd a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cenedlaethol Cymru yw’r pecyn Hanes CA2 sy'n cynnwys llyfr stori am wythnos ym mywyd plentyn o Oes yr Haearn; llyfr ffeithiol, llyfr athrawon a chardiau laminedig lliw.
Mae Academi Wyddoniaeth Genedlaethol wedi'i sefydlu yng Nghymru i helpu datblygu economi gryfach, fwy cynaliadwy a chadarn at y dyfodol. Mae’r Arsyllfa Dysgu a Sgiliau yn cynnwys dolenni i’r ffynonellau gwybodaeth a mentrau amrywiol Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) sydd ar gael yng Nghymru. Adnoddau ar gyfer dysgwyr Ysgol Gynradd, Athrawon Ysgol Gynradd a rhieni
Nod y gynhadledd oedd cyflenwi pobl broffesiynol ym maes addysg gyda’r sgiliau, gwybodaeth, a’r ddealltwriaeth i fynd i’r afael â bwlio ar sail rhywiau mewn ysgolion. Mae’r cyflwyniadau o’r gynhadledd nawr ar gael.