
Mi fydd y cylchlythyr yn cymryd seibiant dros y Nadolig ond mi fyddwn yn dychwelyd ym mis Ionawr. Nadolig Llawen a blwyddyn newydd dda i chi!
Croesawodd Leighton Andrews y Gweinidog Addysg gyhoeddi canllawiau ar gyfer ysgolion yng Nghymru i helpu iddynt benderfynu a ddylent gau yn ystod tywydd drwg eithriadol. Datganiad i’r wasg a Chanllawiau i ysgolion
Mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, wedi rhoi ei gefnogaeth i gynllun darllen Cymraeg a gynlluniwyd yn arbennig er mwyn apelio at fechgyn.
Methwyd 6.9 y cant o sesiynau (hanner diwrnod) drwy absenoldeb gydag awdurdod a heb awdurdod, cynnydd o'r 6.8 y cant yn 2008/09.
Mae’r adroddiad hwn yn darparu prif ganfyddiadau Arolwg Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru a gynhaliwyd yn 2009. Nod yr astudiaeth yw darparu gwybodaeth berthnasol a chyfredol am ddefnydd rhieni o ofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar, ac am eu safbwyntiau a’u profiadau o ofal plant.
Cyhoeddwyd holiadur ymgynghori ar gyfer Plant a Phobl Ifanc gan Llywodraeth Cynulliad Cymru heddiw "Trefniadaeth ysgolion - newidiadau posibl i'r broses". Yr holiadur a’r ymgynghoriad
Mae’r Gweinidog wedi rhyddhau Datganiad Ysgrifenedig ar yr Adolygiad o Addysg Gerddoriaeth ar gyfer dysgwyr 3-19 yng Nghymru, a gomisiynwyd gan Lywodraeth y Cynulliad. Trwy’r Datganiad hwn, mae wedi cymeradwyo cyhoeddi adroddiad yr Adolygiad ac “Ymateb gan y Gweinidog” sy’n canolbwyntio ar yr argymhellion yn yr adroddiad a anelir at Lywodraeth y Cynulliad.
Cyflwynodd y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes y Mesur Cynulliad Addysg (Cymru) arfaethedig i’r Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher 8 Rhagfyr. Mae’r Mesur arfaethedig yn darparu bod pwerau a dyletswyddau’n cael eu rhoi yn eu lle i wneud cydweithio yn y system addysg yn beth cyffredin, i wella llywodraethu ysgolion a symleiddio’r gwaith o gynllunio llefydd mewn ysgolion yng Nghymru.