
Cafodd strategaeth newydd i fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Datganiad i’r wasg a’r strategaeth
Cyhoeddodd y Gweinidog dros Addysg Leighton Andrews y bydd newidiadau i gymhelliannau hyfforddiant cychwynnol athrawon (HCA) Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cyrsiau ôl-radd ym mlwyddyn academaidd 2011/12.
Dywedodd Huw Lewis, y Dirprwy Weinidog dros Blant, fod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i roi blaenoriaeth i blant wrth iddo gadarnhau y byddai cyllid yn parhau tan 2012 ar gyfer pedair rhaglen Sgiliau Sylfaenol.
Yn Adroddiad Blynyddol 2009-2010, mae Estyn wedi amlygu astudiaethau achos arfer dda mewn darparwyr addysg a hyfforddiant ledled Cymru. Mae pob ffilm, sy’n cynnwys cyfweliadau gyda staff, dysgwyr a rhieni, yn edrych ar faes llwyddiant gwahanol mewn darparwr.
Er mwyn helpu ysgolion i egluro sut y dylid ystyried y fframwaith mae cyflwyniad ‘power point’ ar gael ar wefan FfEY.
Bydd y ddogfen ganllawiau yn helpu athrawon, gweithwyr iechyd proffesiynol, gweithwyr cymdeithasol, yr heddlu ac ymarferwyr allweddol eraill yng Nghymru i fynd i’r afael â chamfanteisio rhywiol. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi comisiynu Barnardo’s Cymru i ddarparu hyfforddiant yn ystod mis Mawrth i gynorthwyo gyda rhoi’r canllawiau hyn ar waith.
Ymunodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru â Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, i longyfarch Ysgol Gynradd yr Hafod yn Abertawe fel yr ysgol gyntaf yng Nghymru i ennill gwobr lefel 2 UNICEF am fod yn ysgol sy'n parchu hawliau.
Mae plant yn cael eu hannog i ganfod cymaint o wahanol ffyrdd â phosib i greu’r rhif a ddewiswyd ganddyn nhw trwy ychwanegu smotiau ar gefn y fuwch goch gota.
Adnodd cynhwysfawr yn ymdrin â'r unigolyn a'i ddysgeidiaeth yn ogystal â'r bobl a effeithiwyd ganddo.