
Mae Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg, wedi croesawu pwerau newydd sy'n dod i rym sy'n egluro rôl athrawon mewn perthynas â disgyblu a gwahardd disgyblion. Datganiad i’r wasg a mwy o wybodaeth ar y cynllun gweithredu ymddygiad a phresenoldeb
Diben y ddogfen ymgynghori hon yw ceisio’ch barn ar y canllawiau arfer gorau i gyrff llywodraethu a phenaethiaid ar faterion sy’n ymwneud â safon toiledau a chyfleusterau cysylltiedig sy’n ofynnol mewn ysgolion yng Nghymru.
Mae'r fersiwn Gymraeg o Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu (ACEDd) ar gyfer ysgolion cynradd nawr ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael eu hannog i gymryd rhan yn yr Wythnos Gwrth-Fwlio eleni. Gallant wneud hyn drwy hyrwyddo’r materion ynghylch bwlio yn ystod yr wythnos hon drwy’r gwasanaeth ysgol, y cwricwlwm neu drwy ffyrdd eraill. Mae Thema 3 ‘Dweud na wrth fwlio', o’r fersiwn Gymraeg o Agweddau Chymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu, yn thema fyrrach (un neu ddwy wythnos) a fydda'n addas i wythnos gwrth-fwlio. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi creu pecyn cymorth hunanasesu i helpu ysgolion i wella’u polisïau gwrth-fwlio.
Bydd Uned Sgiliau Sylfaenol Llywodraeth y Cynulliad yn trefnu 3 gweithdy efo’r arbenigwr Gary Wilson, ar gyfer athrawon Cyfnod Allweddol 2 yn ystod mis Chwefror 2011. Mae Gary wedi ysgrifennu’n helaeth ar y pwnc ac mae galw ar ei amser i arwain gweithdai hyfforddi ledled Prydain.
Bydd pob gweithdy yn cynnwys 3 sesiwn:
Cynhelir y gweithdai o 10yb hyd at 3.30yh. Am ragor o wybodaeth ac i sicrhau’ch lle e-bostiwch: bscnw@cymru.gsi.gov.uk gan nodi’ch enw, ysgol, a pa weithdy yr hoffech fynychu.
Y mae'r pecyn cwricwlwm PLAPs rhyngweithiol yn adnodd gwych at ddefnydd yr ystafell ddosbarth gynradd ac ar gyfer sesiynau amser cylch.
Yn ystod mis Tachwedd, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn canolbwyntio'i waith cyfathrebu ar blant a phobl ifanc a'r amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw yng Nghymru.
Nod y gynhadledd yw cyflenwi pobl broffesiynol ym maes addysg gyda’r sgiliau, gwybodaeth, a’r ddealltwriaeth i fynd i’r afael â bwlio ar sail rhywiau mewn ysgolion. Mi fydd gwe-ddarllediad fyw ar gael ar 12 Tachwedd (9.30 - 3.45) http://www.respectwales.org.uk
Ewch at y wefan i ddarllen am achosion enghreifftiol gwych o blant a phobl ifanc yn gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.
Nod y diweddariad yw eich hysbysu o ddatblygiadau wrth weithredu'r 'Model ar gyfer Darparu Gwasanaethau Eirioli i Blant a Phobl Ifanc' a'i ddatblygu ymhellach.