
"Rwy’n ysgrifennu atoch i gyflwyno cylchlythyr newyddion electronig misol ichi sy’n cael ei baratoi’n unswydd ar gyfer ymarferwyr yn y Cyfnod Sylfaen a’r sector Cynradd. Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) sy’n gyfrifol amdano. Dwi’n awyddus i beidio â’ch boddi mewn papur a llythyrau, felly’r llythyr electronig hwn fydd un o’r prif ddulliau y bydd APADGOS yn ei ddefnyddio i gyfathrebu â chi o hyn ymlaen. Gobeithio y cewch ei gynnwys yn ddefnyddiol a rhowch wybod inni os gallwch feddwl am sut y gallwn ei wella. Os hoffech fwy o wybodaeth am unrhyw eitem, cysylltwch â ni. Mi fydd y cylchlythyr yn cael ei ddosbarthu pob mis.
Chris Tweedale, Cyfarwyddwr y Grŵp Plant, Pobl Ifanc ac Effeithiolrwydd Ysgolion, Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Cyhoeddodd y Gweinidog dros Addysg, Leighton Andrews cyd-gynlluniau rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i newid yn llwyr y ffordd y bydd rhaglenni cyfalaf ysgolion yn cael eu trefnu a'u hariannu yn y dyfodol. Crynodeb
Ym mis Ionawr cyhoeddodd y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes ei fod yn comisiynu adolygiad annibynnol pwysig o'r gost o weinyddu addysg yng Nghymru. Mae’r contract ar gyfer cam cyntaf yr adolygiad wedi’i ddyfarnu i’r cwmni ymgynghori PricewaterhouseCoopers i edrych ar gostau gweinyddu addysg yng Nghymru.
Lansiodd y Gweinidog dros Addysg, Leighton Andrews; a’r Dirprwy Weinidog dros Blant, Huw Lewis, ymgynghoriad ynglŷn â gosod swyddogaethau a’r Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â Confensiwn y Cenhedloedd Unedig a’r Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Vmgynghoriad
Mae’r ddogfen hon yn darparu arweiniad i gyrff llywodraethol a phenaethiaid ar faterion yn ymwneud â gweithredu neu newid polisi ymddangosiad a gwisg ysgol.
Lansiwyd gwefan newydd o'r enw 'Llais Disgyblion Cymru' i blant, pobl ifanc ac oedolion mewn sefydliadau addysgol yng Nghymru. Gall plant, pobl ifanc a staff ddefnyddio’r wefan 'Cyrraedd y Nod' i rannu gwybodaeth, gwneud sylwadau, gofyn cwestiynau a chyhoeddi astudiaethau achos ynglŷn â’r rhan y maent yn ei chwarae yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt mewn sefydliadau dysgu ledled Cymru. Wefan
Ysgol Gynradd Baden Powell yn Nhremorfa yw’r 1000fed ysgol i gymryd rhan yng nghynllun Brecwast am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ymunodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru a Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg â disgyblion yr ysgol yn eu clwb brecwast i weld sut y maent yn elwa ar y cynllun ac yn mwynhau dechrau iach i’w diwrnod.
Dirprwy Weinidog dros Blant, Huw Lewis, yn traddodi ei araith gyntaf ar bwnc chwarae mewn cynhadledd yng Nghaerdydd a drefnwyd gan Chwarae Cymru. Wrth annerch y gynulleidfa, pwysleisiodd Huw Lewis bwysigrwydd y dyletswyddau newydd a osodir ar yr awdurdodau lleol i ddarparu cyfleoedd ar gyfer chwarae fel rhan o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) a dderbyniodd Cydsyniad Brenhinol yn gynharach yn y mis.
Yn 2008/09, methwyd 6.8 y cant o sesiynau (hanner diwrnod) drwy absenoldeb gydag awdurdod a heb awdurdod, cynnydd o'r 6.7 y cant yn 2007/08. Mae’r gyfradd absenoldeb gyda neu heb awdurdod yr un faint ar gyfer bechgyn a merched.
Cynhaliwyd yr arolwg Cymru gyfan o fwlio mewn ysgolion cyntaf mewn ysgolion ledled Cymru yn ystod haf 2009. Cynhaliwyd yr arolwg hwn i gasglu gwybodaeth gan dros 7,000 o blant a phobl ifanc. Nod y gwaith ymchwil oedd darganfod y mathau gwahanol o fwlio sy'n digwydd mewn ysgolion a pha mor aml y maent yn digwydd.
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau gwerthusiad ansoddol o'r rhaglen Dechrau'n Deg, sy'n edrych ar brofiadau'r defnyddwyr a chanlyniadau Dechrau'n Deg ar gyfer teuluoedd.
Mae’r rhan fwyaf o ysgolion, colegau a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill yn perfformio’n dda, yn ôl Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru 2008-2009. Dros y deuddeng mis diwethaf bu gwelliant ar draws pob sector ac mae arolygwyr wedi gweld mwy o waith ‘da’ a ‘rhagorol’ na gwaith ‘gwael’ neu ‘anfoddhaol’.
Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar y modd y mae ysgolion yn mynd i’r afael â thlodi plant ac anfantais yng Nghymru. Mae’n tynnu ar dystiolaeth o’r tri adroddiad Estyn ar fenter Rhagori a gyhoeddwyd yn 2007, 2008 a 2009, ac ar adroddiadau arolygu ar ysgolion ac awdurdodau lleol.
Mae’r wefan ryngweithiol yn cynnig llu o adnoddau hyblyg i blant a phobl ifanc 3-19 oed. Bydd Get Set yn rhoi’r cyfle i ieuenctid ledled y DU ddysgu am y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd a chwarae eu rhan yng Ngemau 2012.
Yn anffodus nid yw’r erthygl ar gael yn y Gymraeg
This circular sets out primary initial teacher training intake targets for the Centres of Teacher Education for 2010/11.
Os oes diddordeb gennych mewn newyddion ar gyfer y sector ol 11, darllenwch gylchlythyr Dysg
Dyddiadau Tymor a Gwyliau Ysgol 2009-10
Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion