
Mae cylchlythyr Cynradd Dysg wedi ei pharatoi’n unswydd ar gyfer ymarferwyr yn y Cyfnod Sylfaen a’r sector Cynradd. Mae’n cael ei dosbarthu pob mis.
Yn dilyn ymgynghoriad yn 2009, mae’r Strategaeth yn disgrifio gweledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg, ynghyd â Rhaglen Weithredu. datganiad i’r wasg
Bydd y peilot yn cynnwys rhwydwaith o brosiectau lleol ledled Cymru sy’n rhoi gliniaduron i hyd at 1,200 o blant 10-11 oed o ysgolion yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf a Dechrau’n Deg. Bydd pob prosiect yn canolbwyntio’n gryf ar ddysgu yn ogystal ag ar hyrwyddo cynhwysiant digidol.
Pwrpas y dyletswydd yw sicrhau bod plant sy’n colli addysg yn cael eu nodi yn fuan a bod systemau monitro effeithiol yn cael eu sefydlu er mwyn sicrhau bod y person ifanc yn cael mynediad i’r ddarpariaeth fwyaf addas cyn gynted ag y bo modd.
Mae’r ddogfen yn rhoi canllawiau i athrawon/ymarferwyr dysgwyr sydd ag amrywiaeth o anghenion addysgol arbennig mewn lleoliadau/Ysgolion y brif ffrwd a rhai arbennig. Mae’n cefnogi addysgu ac asesu cwricwlwm ysgol 2008.
Nod y Cynllun Fetio a Gwahardd newydd yw diogelu plant ac oedolion agored i niwed drwy sicrhau nad yw pobl y bernir eu bod yn achosi risg yn cael gweithio gyda hwy. Paratowyd canllawiau cyffredinol ar y Cynllun Fetio a Gwahardd ar gyfer cyflogwyr, ymgeiswyr a defnyddwyr eraill y cynllun. Yn ogystal ceir canllawiau ar gyfnewid Disgyblion rhwng Ysgolion a Cholegau Addysg Bellach.Ceir rhagor o wybodaeth am y Cynllun Fetio a Gwahardd ar wefan yr Awdurdod Diogelu Annibynnol.
Yn 2004, dangosodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei hymrwymiad i'r UNCRC drwy ei fabwysiadu fel y sylfaen ar gyfer llunio polisïau ar gyfer plant a phobl ifanc 0-25 oed yng Nghymru. Er mwyn hybu ymwybyddiaeth o'r UNCRC rydym wedi creu llawlyfr sy'n esbonio'r UNCRC ac yn ein cefnogi i hybu ymwybyddiaeth.
Mae’r gystadleuaeth yn agored i bob plentyn a pherson ifanc rhwng 3 a 18 yng Nghymru. Mae’r gystadleuaeth yn edrych am glipiau fideo byr sy’n dangos barn plant am sut y maen nhw eisoes, neu sut y gallen nhw gymryd mwy o ran yn y prosesau penderfynu yn eich ysgol. Y dyddiad cau yw 30ain Gorffennaf 2010.
Cynlluniwyd y llawlyfr hwn i gynorthwyo athrawon i ddatblygu strategaethau sydd o fudd i ddisgyblion sydd y tu allan i ffiniau unrhyw ddosbarthiad anghenion addysgol arbennig. Er hynny, bydd y disgyblion hyn yn cael anawsterau sylweddol gyda llythrennedd, rhifedd, neu’r ddau.
Ydych chi'n ystyried trafod materion Ewropeaidd gyda'ch dysgwyr? Pam na newch chi ganolbwyntio'r gwaith o gwmpas Diwrnod Ewrop eleni, mae digon o ffynonellau ar-lein i'ch helpu. Dyma rai dolenni perthnasol: Gwybodaeth gyffredinol am Ddiwrnod Ewrop ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd, siop lyfrau'r Undeb Ewropeaidd, Cymru, Ewrop a'r Byd (adnoddau) a’r Rhwydwaith Gwybodaeth Ewropeaidd.
Mae LlCC yn comisiynu ystod eang o adnoddau Cymraeg a dwyieithog i gefnogi addysgu’r Gymraeg fel pwnc, addysgu pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg, ac addysgu agweddau ar y cwricwlwm ysgol/coleg sy’n benodol i Gymru. Gallwch lawrlwytho catalog i weld yr adnoddau mwyaf diweddar ar gyfer ysgolion cynradd. Gallwch archebu a phrynu’r holl adnoddau a gomisiynwyd gan LlCC trwy wefan Cyngor Llyfrau Cymru. Gallwch gael adnoddau am ddim ar-lein ar www.ngfl-cymru.org.uk
Mae LlCC yn y broses o gasglu tystiolaeth am yr adnoddau y dylid eu comisiynu yn ystod y flwyddyn nesaf er mwyn cwrdd â gwir anghenion yr ystafell ddosbarth. Byddwn yn croesawi unrhyw sylwadau a syniadau am y math o adnoddau yr hoffech weld yn cael eu comisiynu. Gallwch anfon eich sylwadau a’ch syniadau at Heulwen Goodwin erbyn 21 Mai.
Gwaharddiadau o Ysgolion, 2008/09
Academic Achievement by Pupil Characteristics, 2007-2009
Cyraeddiadau Academaidd a'r hawl i brydau am ddim, 2009
Ymchwil I’r Cytundeb Cenedlaethol ar Godi Safonau a Mynd I’r Afael a Baich Gwaith
Arolwg i Nifer a Mynychder Achosion o Fwlio mewn Ysgolion yng Nghymru Crynodeb
Llyfr am uwcharwyr yn helpu plant ysgolion cynradd i achub y byd
Cynlluniau gweithredu personol ar gyfer Newid am Oes yn cyrraedd
Mynd i’r afael â gordewdra plentyndod gyda rhaglen llawn hwyl
Ysgolion yn Wrecsam yn gwneud Newid am Oes gyda Blas am Oes
Nid yw asesiadau gan athrawon o waith disgyblion yng nghyfnod allweddol 2 (CA2) yn ddigon cyson na chywir rhwng ysgolion gwahanol, yn ôl Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru. Datganiad i’r wasg, yr adroddiad ac ymateb LlCC
Caiff y Gynhadledd, y gyntaf o’i bath yng Nghymru, ei chyflenwi gan Plant yng Nghymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol ac Achub y Plant a gyda chefnogaeth Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Os oes diddordeb gennych mewn newyddion ar gyfer y sector ôl 11, darllenwch gylchlythyr Dysg
Blynyddoedd cynnar, cysylltiadau defnyddiol
Dyddiadau Tymor a Gwyliau Ysgol 2009-10
Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion
Cylchlythyr Cadwyn ar gyfer llywodraethwyr