
Cafodd y Proffil Asesu Datblygiad Plentyn ei gyflwyno ar gyfer lleoliadau a gynhelir ym mis Medi 2011, ac roedd bwriad i’w gyflwyno ar gyfer lleoliadau nas cynhelir ym mis Medi 2012 fel y bo pob plentyn yn cael ei asesu wrth iddo ddechrau ar y Cyfnod Sylfaen. Mae’n amlwg ar ôl gwrando ar sylwadau a gyflwynwyd gan athrawon a phenaethiaid ac yn amlwg hefyd o ganfyddiadau cynnar yr Athro Iram Siraj-Blatchford fod problemau sylweddol gyda’r Proffil Asesu Datblygiad Plentyn.
Yn fy natganiad ysgrifenedig ar 2 Rhagfyr 2011, nodwyd yr heriau a oedd yn ein hwynebu wrth ddatblygu model gwrthrychol ar gyfer ysgolion cynradd o’u cymharu ag ysgolion uwchradd ac, yn benodol, yr heriau o ran cysondeb asesiadau gan athrawon ac o ran y nifer mawr o ysgolion sydd â nifer bach o ddisgyblion.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n trefnu cyfres o bedair cynhadledd ‘Mae addysgu’n gwneud gwneud gwahaniaeth: Blwyddyn yn ddiweddarach’ ar draws Cymru. Diben y cynadleddau hyn fydd cyflwyno'r newyddion diweddaraf i ymarferwyr ac i'r rhai hynny sy'n ymwneud â darparu a datblygu polisi addysg ynghylch hynt y gwaith a amlinellwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn ei gynlluniau i godi safonau ysgolion. Mwy o wybodaeth a’r agenda