
Ym mis Hydref y llynedd, cyhoeddodd y Gweinidog dros Addysg fod grŵp gorchwyl a gorffen annibynnol yn cael ei sefydlu i ystyried y system gyfan dros y tymor hir ac a yw wedi’i strwythuro yn y ffordd orau i helpu dysgwyr i gyflawni eu potensial. Mae’r grŵp wedi edrych ar berfformiad darparwyr ar bob lefel: ysgolion, colegau, awdurdodau lleol, sefydliadau rhanbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys APADGOS.