
Fel rhan o gynllun gweithredu’r Gweinidog ar gyfer gwella ysgolion, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno model cenedlaethol ar gyfer CDPau. Mae’r model cenedlaethol wedi cael ei ddarparu i arwain ymarferwyr drwy’r broses o sefydlu a rhedeg cymuned ddysgu broffesiynol. Gall y cyfranogwyr sy’n defnyddio’r model cenedlaethol ymgysylltu a chydweithio â’i gilydd yn effeithiol, gan ganolbwyntio eu hymdrechion ar welliannau penodol yn eu hysgolion. Yn y pen draw, bydd y gwelliannau hyn yn codi safonau yn y tri maes blaenoriaeth ar gyfer ysgolion Cymru; llythrennedd, rhifedd a mynd i'r afael ag anfantais.