
Gofynnodd Arolwg Sgiliau Generig SDC 2003 ynghylch lefel y sgiliau iaith Gymraeg a oedd yn ofynnol gan gyflogwyr, ynghyd â sgiliau generig eraill megis sgiliau cyfathrebu, gweithio mewn tîm a rheoli. Roedd y canfyddiadau’n ddefnyddiol iawn ond fe ysgogwyd llawer mwy o gwestiynau – megis pa fathau penodol o sgiliau iaith Gymraeg yr oedd eu hangen. Er enghraifft, pan fydd angen y Gymraeg mewn rôl, ai o ran siarad, darllen neu ysgrifennu y bydd hyn, ac a oes ei hangen bob dydd neu ar gyfer tasgau penodol yn unig? Hefyd, a yw’r cyflogwyr sy’n gofyn am sgiliau iaith Gymraeg yn teimlo bod y ddarpariaeth addysg a hyfforddiant sydd ar gael ar hyn o bryd yn addas i’w hanghenion?
Dywedodd Rheolwr Sgiliau Dyfodol Cymru Joanne Corke:
“Dyma’r tro cyntaf i arolwg o gyflogwyr gael ei wneud ar y raddfa hon ynghylch eu hanghenion mwy manwl o ran sgiliau iaith Gymraeg. Dywedodd yr Arolwg Sgiliau Generig wrthym fod llawer o gyflogwyr yn ystyried bod cael staff sy’n gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn fantais i’w sefydliad. Er mwyn hybu datblygu’r sgiliau hyn, mae angen i unigolion fod yn ymwybodol o’r swyddi lle mae angen y sgiliau hyn ac mae angen i ddarpwrwyr dysgu wybod mwy am y sgiliau penodol y mae eu hangen. Bydd yr arolwg hwn yn darparu gwybodaeth a all gael ei defnyddio gan gynghorwyr gyrfaoedd, darparwyr a gwneuthurwyr polisi ledled Cymru.”
Bydd yr arolwg dilynol hwn yn cynnwys 2,000 o gyflogwyr ledled Cymru a bydd yn canolbwyntio’n arbennig ar gyflogwyr o’r diwydiannau hynny a ddatganodd yn ystod Arolwg 2003 fod arnynt angen pobl a chanddynt o leiaf sgiliau iaith Gymraeg lefel ganolradd. Cynhelir y cyfweliadau yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd 2004 a bydd adroddiad y prosiect ar gael yn adran cyhoeddiadau y wefan hon yng Ngwanwyn 2005.
Y bwriad yw defnyddio’r prosiect ochr yn ochr â’r prosiect a wnaed yn ddiweddar gan ELWa, gan gyfweld â chyflogwyr o’r sector cyhoeddus, ac felly bydd arolwg SDC yn cynnwys cyflogwyr sector preifat yn unig. Cliciwch ar y cyswllt canlynol i lwytho copi o adroddiad prosiect ELWa i lawr: www.elwa.org.uk