
Mae deall pa sgiliau mae cyflogwyr eu heisiau a'u buddsoddiad mewn sgiliau datblygu gweithle nid yn unig yn hollbwysig i'n lles economaidd, ond yn bwysig ar sail dydd-i-ddydd ar gyfer unigolion a busnesau fel ei gilydd.
Casglodd Arolwg Sgiliau Cyflogwyr y DU 2011 wybodaeth gan dros 87,500 o gyflogwyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig - dros 6,000 ohonynt yn seiliedig yng Nghymru - mewn busnesau bach a mawr ym mhob sector ac mae'n un o'r arolygon mwyaf o sgiliau cyflogwyr a gynhaliwyd unrhyw le yn y byd.
Mae'r adroddiad First Findings yn rhoi ciplun cyflym o wybodaeth ar lefel y Deyrnas Unedig yn deillio o'r prosiect. Bydd dadansoddiad manylach, yn cynnwys gwybodaeth ar lefel Cymru ar gael pan gyhoeddir y Prif Adroddiad a'r gwahanol Adroddiadau Cenedlaethol yng Ngwanwyn 2012.
Ar yr olwg gyntaf, dengys y canfyddiadau allweddol y gall y farchnad lafur yn gyffredinol ateb y galw, gyda dim ond 12% o sefydliadau'n dweud bod swyddi gwag adeg yr arolwg. Nododd y rhai gyda swyddi gwag gyfartaledd o 2.4 swyddi gwag fesul sefydliad, gyda'r gyfran fwyaf o swyddi gwag yn y sectorau gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn, ac addysg.
Dywedwyd mai dim ond chwarter o'r holl swyddi gwag (23%) oedd yn rhai anodd eu llenwi, gyda'r mwyafrif o'r rhain yn cael eu hachosi gan brinder sgiliau. Effeithiodd swyddi gwag anodd-eu-llenwi hefyd ar staff eraill drwy gynyddu eu llwyth gwaith ac effeithio ar allu'r busnesau i ateb galw cwsmeriaid. Ymhlith crefftau medrus yr oedd y mwyaf o swyddi gwag prinder sgiliau a'r swyddi oedd ar goll amlaf oedd sgiliau penodol i'r swydd.
Er bod gan y rhan fwyaf o'r sefydliadau'r sgiliau maent eu hangen, nododd 13% fylchau sgiliau neu ddiffygion (lle bernir nad yw cyflogeion yn hollol hyddysg yn eu rôl). Dywedwyd mai prif achosion bylchau sgiliau oedd gweithwyr newydd i'r rôl a hyfforddiant wedi ei gwblhau'n rhannol yn unig.
Canfuwyd mai dim ond 24% o gyflogwyr oedd wedi recriwtio'n uniongyrchol o'r system addysg yn y 2-3 blynedd flaenorol, gyda 59% yn canfod fod ymadawyr ysgol 16 oed wedi paratoi'n dda am waith a 64% yn canfod ymadawyr ysgol 17-18 wedi paratoi cystal. Cynyddodd y ffigur hwn i 72% ar gyfer pobl ifanc 17-18 oed a recriwtiwyd o'r coleg a 82% ar gyfer rhai o addysg uwch.
Yn nhermau buddsoddiad mewn sgiliau a datblygu gweithlu, roedd gan 59% o'r holl sefydliadau staff wedi eu hyfforddi ar y swydd neu oddi ar y swydd yn y 12 mis cyn yr arolwg, a thri chwarter (76%) wedi darparu rhyw fath o ddysgu ehangach. Y swyddi lle'r oedd y gyfran uchaf o staff wedi derbyn hyfforddiant yn y 12 mis blaenorol oedd gofalu, hamdden a swyddi gwasanaeth eraill.
Dim ond 17% o sefydliadau oedd heb fod yn darparu hyfforddiant na gweithgareddau dysgu ehangach.
Dengys yr arolwg fod sefydliadau mwy yn debycach o hyfforddi eu gweithwyr, ynghyd â'r rhai a ystyriwyd yn arloesol, neu yn y sectorau gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn, addysg, neu iechyd a gwaith cymdeithasol. Hefyd roedd sefydliadau a ddynododd fylchau sgiliau yn llawer mwy tebygol o hyfforddi.
Amcangyfrifwyd y gwariwyd £49bn ar hyfforddiant yn y 12 mis cyn yr arolwg. Roedd gan 38% o gyflogwyr gynllun hyfforddiant ar waith, 29% â chyllideb hyfforddiant a bod 65% o'r rhai a ddarparai hyfforddiant wedi asesu ei effaith. Y mathau mwyaf cyffredin o hyfforddiant oedd hyfforddiant penodol i swydd a hyfforddiant iechyd a diogelwch/cymorth cyntaf. Roedd gan chwarter y sefydliadau hefyd staff wedi'u hyfforddi tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.
Mae adroddiad llawn First Findings from the 2011 UK Employer Skills Survey ar gael yn http://www.ukces.org.uk/publications/ukess-2011-first-findings
Mae Llywodraeth Cymru'n dymuno ehangu ac ymestyn y defnydd o Wybodaeth ar y Farchnad Lafur ledled Cymru. Mae hyn yn un o gyfres o erthyglau fydd yn ymddangos yng nghylchlythyr DYSG ar wefan yr Arsyllfa Dysgu a Sgiliau
Os oes gennych unrhyw sylwadau am y mathau o Wybodaeth ar y Farchnad Lafur sy'n werthfawr i chi yn eich gwaith a sut y bu gwybodaeth ar y farchnad lafur o fudd i chi, hoffem glywed gennych. Ar gyfer hyn a gwybodaeth bellach am y prosiect Gwybodaeth ar y Farchnad Lafur, cysylltwch â Rachel Stephens, Uwch Reolwr Polisi Sgiliau Llywodraeth Cymru yn rachel.stephens2@wales.gsi.gov.uk