
Mae cyfanswm cyflogaeth yng Nghymru wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed - yn ôl yr Arolwg o'r Llafurlu chwarterol diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw (15 Awst) gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Yn y tri mis o fis Ebrill i fis Mehefin, cyrhaeddodd y cyfanswm cyflogaeth yng Nghymru 1,360,000; sef cynnydd o 32,000 o'i gymharu â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol a chynnydd o 13,000 o'i gymharu â'r chwarter blaenorol.
Mae'r gymhariaeth blwyddyn ar flwyddyn yn dangos cynnydd o 2.4 y cant yn y niferoedd a gyflogir yng Nghymru, o'i gymharu â chynnydd o 0.5 y cant yn y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.
Mae hyn yn golygu mai 72.3 y cant yw'r gyfradd gyflogaeth ymysg pobl o oedran gweithio yng Nghymru, cynnydd o 0.8 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, o'i gymharu â gostyngiad o 0.1% ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd.
Mae'r ffigurau'n tanlinellu tuedd hirdymor. Dros y degawd diwethaf, mae'r niferoedd mewn gwaith yng Nghymru wedi cynyddu'n fwy nag yn y DU yn ei chyfanrwydd - ac mae cyflogaeth wedi cynyddu 147,000 ers creu Llywodraeth y Cynulliad.
Roedd gostyngiad o 8.8 y cant yn y ffigurau diweithdra ar gyfer mis Gorffennaf - gostyngiad o 40,300 o'i gymharu â mis Mehefin y llynedd. Yn ôl yr ystadegau diweddaraf hyn, 5.5. y cant yw'r gyfradd ddiweithdra gyffredinol ar gyfer Cymru.
Cwympodd anweithgarwch ymysg pobl o oedran gweithio yng Nghymru yn ystod y tri mis hyd at fis Mehefin 11,000 o'i gymharu â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol. 23.4 y cant oedd y gyfradd, sef gostyngiad o 0.7 y cant yn ystod y flwyddyn.
Wrth groesawu'r ffigurau, meddai Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog Cymru
Mae'r ffigurau diweddaraf hyn, gan gynnwys y gostyngiad sylweddol yn y lefelau anweithgarwch economaidd, yn newyddion da i Gymru. Fel y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, byddaf yn parhau i sicrhau bod Llywodraeth y Cynulliad yn darparu cymorth effeithiol i fusnesau ledled Cymru, gan greu mwy o gyfleoedd am gyflogaeth mewn economi cystadleuol, amrywiol a deinamig.
http://new.wales.gov.uk/news/ThirdAssembly/Business/2007/1751872/?lang=cy