
Heddiw [dydd Llun 12 Mai], bydd John Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, yn datgan ei weledigaeth ar gyfer lleihau nifer y bobl ifanc sy'n gadael addysg yn y papur cyntaf mewn cyfres thematig i fynd i'r afael â'r materion a godir yn 'Sgiliau sy'n Gweithio i Gymru'. Bydd y Dirprwy Weinidog yn ymweld â Rathbone yng Nghrymlyn i weld sut mae'r cwmni'n cefnogi pobl ifanc i oresgyn rhwystrau i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Yno bydd yn lansio'r ddogfen ymgynghori 'Cyflawni Sgiliau sy'n Gweithio i Gymru: Lleihau cyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yng Nghymru', sy'n nodi cynigion Llywodraeth y Cynulliad i drawsnewid y ddarpariaeth addysg a gwireddu doniau pobl ifanc.
Meddai John Griffiths:
Ers datganoli, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran lleihau nifer y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NACH). Mae nifer o fentrau eisoes wedi'n helpu i gyflawni ein targed Gweledigaeth ar Waith ar gyfer 2007 i leihau cyfran y bobl ifanc 16-18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant i 10%. Fodd bynnag, mae'r ffigur hwn yn parhau i fod yn annerbyniol a rhaid i ni weithredu nawr i'w leihau ac osgoi mwy o bobl ifanc yn gadael addysg.
Mae'r papur ymgynghori hwn yn seiliedig ar dri maes gweithgarwch: y systemau cywir, y ddarpariaeth gywir a'r gefnogaeth gywir.
Y Systemau Cywir
Mae angen prosesau effeithlon i adnabod ac ailgysylltu â phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, ynghyd â phrosesau asesu ac atgyfeirio cadarn a monitro gwell yn yr hirdymor.
Mae'r cynigion yn cynnwys:
Y Ddarpariaeth Gywir
Mae pobl ifanc sy'n gadael addysg yn dweud eu bod yn y sefyllfa honno gan nad yw'r cyrsiau cywir ar gael neu nad oes ganddynt y cymwysterau i gamu ymlaen.
Mae'r cynigion i fynd i'r afael â hyn yn cynnwys:
Y Gefnogaeth Gywir
Mae angen dysgu dwys wedi'i dargedu a chefnogaeth, yn ogystal â chyngor gyrfaoedd ac arweiniad i sicrhau bod pobl ifanc yn gwybod sut i gael addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, a'u galluogi i oresgyn heriau.
Mae'r cynigion yn cynnwys:
Meddai John Griffiths:
Rydym am sicrhau bod cynifer o bobl ifanc â phosibl yn dewis aros mewn addysg ar ôl 16 oed, gan gynnwys y rheini sy'n wynebu'r heriau anoddaf. Mae cytundeb Cymru'n Un yn rhoi ymrwymiad cryf i drawsnewid y ddarpariaeth addysg ar gyfer pobl ifanc drwy gynnig opsiynau dysgu deniadol a hyblyg, gyda mwy o gymorth ac arweiniad.
Rwy'n annog busnesau, rhanddeiliaid ac unigolion i helpu i lywio'n hagenda ar gyfer Cyflawni Sgiliau sy'n Gweithio i Gymru, a chymryd rhan weithgar yn y broses ymgynghori hon.